Dydd Llun Eisteddfod RTJ Llanbed

Y diweddaraf o Eisteddfod RTJ Llnbed ar ddydd Llun olaf Awst.

gan Ifan Meredith

Ydych chi am fentro draw i’r Eisteddfod yn ystod y dydd? Ychwanegwch eich profiadau o’r Eisteddfod.

14:24

Seremoni’r Fedal Ryddidiaith

Daeth 8 ymgais i law eleni.  Y dasg oedd ysgrifennu dwy ymson ar y testun Cuddio / Cwato.

Noddwyd y fedal gan gwmni LAS Llanbed a rhoddwyd y wobr ariannol gan Rhys a Shan Bebb Jones.

Y beirniad oedd Gwennan Evans a dywedodd ei bod hi’n gystadleuaeth gref.

14:16

“Chwannen” wedi codi yn y gynulleidfa yn seremoni’r Fedal Ryddiaith, sef Caron Wyn Edwards, Rhostryfan, Caernarfon.

14:10

Gwennan Evans yn traddodi beirniadaeth cystadleuaeth o ’safon uchel iawn’.

14:06

Dechrau ar Seremoni’r Fedal Ryddiaeth dan ofal Dorian Jones. 

13:15

Pedair yn cystadlu yng nghystadleuaeth yr Alaw Werin dan 12 oed. 

13:00

Dau yn cystadlu yn yr Unawd ar unrhyw offeryn cerdd gan gynnwys y piano dan 12 oed. 

12:59

Unawd 10-12 oed

1. Ela Gwen

2. Gwennan Lloyd Owen

3. Awel Grug Lewis

12:57

Llefaru 8-10 oed

1. Esther 

2. Elliw Grug

3. Aron

12:33

Canlyniadau cynta’r dydd, yr Unawd dan 8 oed:

1. Arthur Siôn

2. Nanw Griffiths-Jones

3. Sara Lewis

Llefaru dan 8 oed:

1. Arthur Siôn

2. Nanw Griffiths-Jones

3. Sara Lewis

12:30

Pedair yn cystadlu yng nghystadleuaeth Llefaru 10-12 oed.