Dydd Llun yn y Sioe Fawr 2022

Ychwanegwch eich lluniau, fideos a’ch canlyniadau o’r Sioe Frenhinol yma.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
AAA092F1-9B9E-4E76-BB91

Llun: British Limousin Society

Sut aeth hi heddiw yng ngwres twym Llanelwedd?  Unrhyw beth i’w rannu, gwnewch hynny yma.

Wedi dwy flynedd o fwlch roedd croeso CYNNES iawn i’r Sioe Amaethyddol unigryw hon heddiw.

18:29

C.Ff.I. Pontsian wedi ennill canu grŵp a Sara Davies fel unigolyn. Roedd Alwena Owen o Llanllwni yn rhan o’r grŵp. (Llun ohonynt yn y Rali). 

18:26

Dylan ac Elen Davies a’r teulu, Drefach wedi bod yn llwyddiannus yn dangos gwartheg buches Blaencwm.

Gwartheg Limousin

Heiffer wedi ei geni rheng 1af Ionawr a 31ain Mawrth 2021 – 1af

Heiffer wedi ei geni ar ôl 1af Mehefin 2021 – 3ydd

Heiffer gorau wedi ei geni ar ôl 1af Ionawr 2021 – Is-Bencampwr

Llongyfarchiadau mawr.

18:03

Y ddau Dewi Davies a Doreen yn derbyn eu gwobrau am wasanaeth hir oes i amaethyddiaeth. Enwebwyd y 3 gan gwmni Evans Bros

17:49

Aneurin Davies ac Elgan Thomas yn cael eu llongyfarch gan Dafydd a Gwynfor Lewis o gwmni W D Lewis a’i Fab wedi iddynt gael eu hanrhydeddu heddiw yn y sioe am hir wasanaeth i’r diwydiant amaethyddol.