Dydd Llun y Steddfod

Haul yn gwenu’n braf yn Nhregaron

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Dewch yn llu i Dregaron ar ddiwrnod y Coroni.

16:44

Croesawu cynrychiolwyr o’r gwledydd celtaidd. 

16:36

Yr Orsedd yn ei lle yn barod ar gyfer Seremoni’r Coroni. 

16:02

Llongyfarchiadau mawr i Ela Mablen, Cwrtnewydd sydd wedi cael Eisteddfod i gofio. Da iawn ti. 

15:54

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd yn dod yn ail yng nghystadleuaeth yr unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed.

15:51

78C46947-C243-4A05-B4BB

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd yn dod yn ail yng nghystadleuaeth yr Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed. 

15:40

Rhai o ganlyniadau’r ardal:

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd yn gyntaf yng nghystadleuaeth yr Unawd i Ferched 12 ac o dan 16 oed. Daeth Ela yn drydydd hefyd yng nghystadleuaeth y Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed.

Trystan Bryn Evans, Pumsaint yn dod yn drydydd yng nghystadleuaeth yr Unawd i Fechgyn 12 ac o dan 16 oed.

15:28

Ela Mablen, Cwrtnewydd yn cystadlu ar Unawd Cerdd Dant 12-16 oed. 

14:24

E372C82C-BEBA-48A4-85AB

Glenda a Leanne o Lambed wedi ennill Sash Huw Fash!

13:01

Gwyn Nicholas gyda Chôr Llanpumsaint – enillydd Medal T H Parry Williams. 

12:57

Ysgol Bro Pedr yn dod yn drydydd yn y ddawns disgo/hip hop/stryd i grŵp.