Dydd Llun y Steddfod

Haul yn gwenu’n braf yn Nhregaron

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Dewch yn llu i Dregaron ar ddiwrnod y Coroni.

15:54

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd yn dod yn ail yng nghystadleuaeth yr unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed.

15:51

78C46947-C243-4A05-B4BB

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd yn dod yn ail yng nghystadleuaeth yr Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed. 

15:40

Rhai o ganlyniadau’r ardal:

Ela Mablen Griffiths Jones o Gwrtnewydd yn gyntaf yng nghystadleuaeth yr Unawd i Ferched 12 ac o dan 16 oed. Daeth Ela yn drydydd hefyd yng nghystadleuaeth y Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed.

Trystan Bryn Evans, Pumsaint yn dod yn drydydd yng nghystadleuaeth yr Unawd i Fechgyn 12 ac o dan 16 oed.

15:28

Ela Mablen, Cwrtnewydd yn cystadlu ar Unawd Cerdd Dant 12-16 oed. 

14:24

E372C82C-BEBA-48A4-85AB

Glenda a Leanne o Lambed wedi ennill Sash Huw Fash!

13:01

Gwyn Nicholas gyda Chôr Llanpumsaint – enillydd Medal T H Parry Williams. 

12:57

Ysgol Bro Pedr yn dod yn drydydd yn y ddawns disgo/hip hop/stryd i grŵp. 

12:35

Cerys Angharad yn ennill Rhuban Glas Offerynnol. 

12:04

B68447E2-40D8-44D9-8956

Einir Ryder, Lincyn Loncyn

12:03

0F5B6DA1-AB5C-4AE7-85CE

Dylan Lewis, Cadeirydd Clonc yn cael ei Urddo.