Bardd y Goron yn Eisteddfod Llanbed neithiwr oedd Jo Heyde o Lundain yn wreiddiol a ddechreuodd ddysgu Cymraeg tua diwedd 2018.
Dyma fardd rhyfeddol. Nid oedd wedi darllen barddoniaeth o’r blaen yn Saesneg heb sôn am y Gymraeg ond ar ddiwedd 2020 yn ystod y cyfnod clo, darganfyddodd y podlediad Clera ac ymunodd ag Ysgol Farddol Caerfyrddin mewn sesiynau rhithiol.
Erbyn hyn mae’n llunio cerddi’n y Gymraeg a llongyfarchwn hi’n gynnes am ennill cystadleuaeth y Goron neithiwr o blith 12 o feirdd.
Arweiniwyd seremoni urddasol ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant gan ysgrifennydd yr eisteddfod sef Dorian Jones a disgyblion Ysgol y Dderi Llangybi a gyflwynodd y Ddawns Flodau.
Mae Siw Jones, Tangraig gynt yn gyd aelod i Jo yn Ysgol Farddol Caerfyrddin, a dywedodd:
‘O’r cyfarfyddiad cyntaf fe’n sgubwyd ni’n syth gan afael Jo ar yr iaith, ond peth arall wedyn yw cyrraedd y man lle mae hi’n creu mor ddeheug, mor ddychmygus mor feistrolgar yn y Gymraeg ac mae ganddi afael da iawn erbyn hyn ar y canu caeth a’r cynganeddion.”
Mewn neges trydar neithiwr, ymatebodd Jo drwy ddweud:
“Diolch unwaith eto i bawb am y llongyfarchiadau ac edrych ymlaen at weddill yr Eisteddfod dros y penwythnos.. Talwrn nos Lun!”
Y beirniad oedd y prifardd Ceri Wyn Jones a gafodd argraff fawr o ddarllen y casgliad o gerddi am y tro cyntaf. Testun y gystadleuaeth oedd “Difyrion”.
Roedd y Goron yn rhoddedig gan Gyngor Sir Ceredigion o waith Rhiannon Tregaron, a rhoddwyd £200 yn wobr gan aelodau Cyfrinfra Ffynnonbedr.
Gellir gwylio cyfweliad â Jo Heyde ar Flog Byw Clonc360 yn ogystal a gweld diweddariadau o’r eisteddfod gan gynnwys lluniau a chanlyniadau.