#Clonc40 – Edrych yn ôl o fis i fis drwy rifynnau mis Mai Papur Bro Clonc

Ar ben-blwydd Clonc yn 40 oed, edrychwn ar beth oedd cynnwys y papur bro yn y ganrif ddiwethaf

gan Yvonne Davies

Clonc mis Mai 1985.

Mis Mai – Mis sy’n rhoi adroddiadau o weithgareddau cyfnod y Pasg, ac yn dymuno’n dda i’r plant a’r ieuenctid sy’n mynd ymlaen i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, mis y Cymanfaoedd Canu, ac Wythnos Cymorth Cristnogol.

1982

Cwrtnewydd – Addasu hen gapel Brynbach yn ganolfan i’r Urdd.

Llanllwni – Lleoliad arwyddion y pentref yn gwneud Llanllwni’r pentref hiraf yn Nyfed, – os nad yng Nghymru!

1983

Llanllwni – Y cylch meithrin yn 10 oed. Llun y plant cyntaf bu’n mynychu’r cylch.

Drefach/Llanwenog – BBC yn recordio ‘Malu ar yr Awyr yn y Neuadd, gyda Emyr Wyn.

1984

Llambed – Agoriad swyddogol y Mart newydd ar safle’r hen stesion.

Llangybi – Croesawi Côr o’r Almaen.

Llanwenog – Clychau’r Eglwys yn canu eto. Bu’r gloch fawr yn fud ers 30 o flynyddoedd.

1985

Llambed – Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr a’r Fro 1984 wedi gwneud £21,793 o elw.

Y Clwb Bowlio yn 60 oed. Agor adeilad newydd.

1986

Llambed – Soar yn cynnal noson arbennig i anrhydeddu Mr. Maldwyn Hughes am ei waith fel Diacon ers 50 mlynedd.

Siop J.W. Davies yn 80 oed.

1987

Llambed – Y parc chwarae ger Cerrig yr Orsedd wedi agor.

Delyth Medi yn ennill Gwobr Goffa Nansi Richards i delynorion ifanc.

1988

Drefach/Llanwenog – Mrs. Eva Davies, Abernant yn derbyn y BEM.

Llambed – Mrs. Hamer, Wernllwyn yn derbyn y Fedal Gee am ei ffyddlondeb i’r Ysgol Sul am dros 80 o flynyddoedd.

1989

Cwmann – Pwyllgor y Pentref yn derbyn £23,000 oddi wrth Gyngor Dosbarth Caerfyrddin er mwyn prynnu maes chwarae.

Llanllwni – Eileen Evans, Brenhines y Ffermwyr Ifainc yn Rali SirGaerfyrddin.

1990

Llambed – Llywodraethwyr yr Ysgol Gyfun yn cefnogi’r ymgyrch am Ysgol Ddwyieithog swyddogol i Lambed.

Llanwnnen – Codi pont newydd dros y Grannell.

1991

Pwyllgor Addysg Dyfed yn gwrthod sefydlu Ysgolion Dwyieithog penodedig yn Llambed a Thregaron.

Llambed – Cyngerdd Mawreddog yn Soar er budd Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992.

Drefach/Llanwenog – Mrs Eva Davies yn derbyn medal y WRVS am ei gwaith gwirfoddol am dros 27 mlynedd.

1992

Rhifyn 103 mis Mai, nid Mawrth!!

Cyrddau Blynyddol Undodiaid Deheudir Cymru yn anhydeddu Cynog Dafis – yr Undodwr Cymreig cyntaf i fod yn Aelod Seneddol.

Gorsgoch – Capel Brynhafod yn talu teyrnged i Mrs. Sadie Jones, fel Ysgrifennydd y capel am 31 o flynyddoedd.

1993

Llangybi – Mr a Mrs Pinkstone yn harddu’r pentref â blodau drwy gydol y flwyddyn.

Cellan – Jo Conti yn ennill y teitl ‘Cynllunwraig Gymreig y Flwyddyn’ mewn seremoni yn y Savoy yn Llundain, a Lynda Jones, Coedmor Hall yn derbyn Seren Aur Mudiad y Ffermwyr Ifainc oddi wrth y Dywysoges Anne yn Blackpool.

Llambed – Y Clwb Bowlio – Anita Williams – Llywydd Cyntaf ‘Cymdeithas Bowlio Merched Ceredigion’.

1994

Llanybydder – Miss Nanna Williams, y Fferyllydd, yn ymddeol wedi cyfnod o 30 mlynedd yn y pentref.

Llambed – Penodi Mr Huw Jenkins yn Brifathro Ysgol Ffynnonbedr ar gyfer mis Medi.

1995

Cwmsychpant – Dadorchuddio cofeb i’r Athro E.J. Williams (Desin).

Drefach/Llanwenog – Nans Evans yn gadael y Cylch meithrin wedi 17 o flynyddoedd.

Llambed – Bet Davies yn ymddeol; diwedd y cysylltiad teuluol yn siop J.W. ers 100 mlynedd.

1996

Llambed – Agor Festri Newydd Brondeifi

Llanfair – Sefydliad y Merched yn dathlu penblwydd y gangen yn 70.

Llanwnnen – Alan Watts, Pantyronnen yn rhedeg Marathon Llundain, ac yntau’n 67 oed.

1997

Llambed – Datgelu Logo Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1999 – Llanbedr a’r Fro – gwaith Rhys Bevan Jones.

Cellan – Lyn Jones, Dôl Hyfryd, yn derbyn Medal y Frenhines am ei wasanaeth i Ambiwlans Gorllewin Cymru am 28 o flynyddoedd.

1998

Llanybydder – Emyr Davies, Coedyglyn yn ennill gwobr yn Las Vegas am gynllun ‘Gwahadden dechnegol’, – y prosiect gorau yn y sioe i’w gwmni. Enillodd wobr hefyd gan y Gymdeithas Ddarlledu.

Llambed a’r Fro – Jiwbili yr Urdd. Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1999. Cannoedd o blant yn gorymdeithio drwy’r dref gyda ‘Strab a Haden?

Llambed – Siop y Co-op yn Llambed ers 50 mlynedd. Gwahoddiad i wŷr a gwragedd a briodwyd yn 1948 i ddod i’r dathlu. Derbyniodd 9 pâr focs o siocled a glasiad o wîn. Y Staff yn gwisgo yng ngwisg y 40au.

1999

Llyfr Cymraeg y Ganrif – ‘Cysgod y Cryman’, Islwyn Ffowc Elis.

Arian yn llifo i mewn at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Llanwnnen – Ail agor Festri Capel y Groes.

Dyma uchafbwyntiau mis Chwefror a gyhoeddais yn wreiddiol, yna uchafbwyntiau mis Mawrth rhyw wythnos yn ôl a wedyn uchafbwyntiau mis Ebrill yn ddiweddar.  Fe ddaw uchafbwyntiau mis Mehefin cyn bo hir.