Dyma gyfle i ni gyd i hel atgofion am EIRA 1982, 40 o flynyddoedd yn union yn ôl.
Ewch ati i dwrio yn yr albym lluniau neu dyddiaduron i weld a oes gyda chi atgofion i’w rannu.
Dewi yn gwneud llwybr i gael glo i’r tan.
Llun gan Dewi Davies, Llanybydder.
Yr hewl wrth fynd am Alltyblaca.
Llun gan Dewi Davies, Llanybydder.
Tu fas i Swyddfa Evans Bros, Llanybydder.
Llun gan Dewi Davies, Llanybydder.
Stryd y Bont Llanbed.
Stryd y Bont yn ystod yr eira
Gwynfor Lewis yn llwytho cêc i’r hofrennydd mewn cae (lle mae maes parcio’r Co-op heddiw) yn Llanbed er mwyn cyflenwi creaduriaid fferm.
Parc-y-rhos yn yr eira.
Ffordd yr A485 ar gau i gerbydau ger Hafod Cwmann oherwydd y lluwchfeydd, gyda Fronhaul a’r Hen Ficerdy yn y cefndir.
Dyma fel oedd hi yn ty ni (Gafryw Uchaf, Cribyn Road) 40 mlynedd yn ol – methu mynd allan o’r drws ffrynt na lan yr hewl! Lwcus bod drws y bac yn glir!
Clyrio llwybr i ddrws ffrynt Maesyrhaf, Stryd y Bont, Llanbed.