Eitemau o safon uchel iawn yn noson Carol Cerdd a Chân

Gwasanaeth Nadolig Blynyddol Cymorth Cristnogol yn Llanbed

gan Elaine Davies
4A62487E-98F8-4852-A69C
B44627F7-E991-474C-8A0E
7FC67347-B64D-4A97-BCFB

Lluniau gan Rhiannon Lewis

Llwyddodd gwasanaeth Nadolig Blynyddol Cymorth Cristnogol yn Llanbed i godi mwy na £550 at yr achos.

Er gwaetha’ tywydd rhewllyd, roedd cynulleidfa ryfeddol o dda wedi dod i Eglwys Sant Pedr ar nos Sadwrn, 10 Rhagfyr ar gyfer y gwasanaeth Carol, Cerdd a Chân.

Fe gawson nhw wledd o ganu gydag eitemau o safon uchel iawn gan Gôr Meibion Cwmann, Kes Huysmans, Sara Davies, Aled Wyn Thomas ac Ifan Meredith.

Roedd yna ddarlleniadau hefyd – o’r Beibl ac o gerdd gan Gwyn Thomas – gyda’r Hybarch Eileen Davies yn croesawu pawb ar y dechrau. Prif ddisgyblion Ysgol Bro Pedr oedd yn cyhoeddi’r carolau.

Fel arfer, Janet Evans oedd wedi ymgymryd â’r gwaith caled o drefnu’r rhaglen.

Mae 32 o flynyddoedd bellach ers cynnal y gwasanaeth am y tro cyntaf, dan arweiniad Hazel a Twynog Davies ac mae’n rhan o ymdrechion llwyddiannus cangen leol Cymorth Cristnogol, sy’n codi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn.