Caeodd Banc Barclays ar Sgwâr Harford Llanbed heddiw. Dyma’r ail fanc i gau yn y dref yn y blynyddoedd diweddar. Mae Banc Nat West ar y Stryd Fawr wedi cau yn barod.
Ar y llaw arall mae Banc HSBC ar Sgwâr Harford a Banc Lloyds ar y Stryd Fawr yn dal ar agor yn y dref. Mae HSBC ar agor pum niwrnod yr wythnos rhwng 9.30yb a 3.30yp, ond mae oriau agor Banc Lloyds yn Llanbed wedi lleihau i Ddydd Llun, Mawrth a Iau yn unig rhwng 9.30yb a 3.30yp.
Ond roedd hi’n ddiwedd cyfnod go iawn ar adeilad mor amlwg ar Sgwâr Harford heddiw. Erbyn y prynhawn ma roedd ffenestri Banc Barclays wedi eu gorchuddio a’r peiriant twll yn y wal yno wedi ei ddiffodd.
Does dim yr un banc bellach mewn trefi gwledig cyfagos fel Llanybydder, Tregaron, Aberaeron na Llandysul sy’n amddifadu cymunedau o wasanaethau angenrheidiol cyfleus.
Mewn cyfarwyddiadau a roddwyd i gwsmeriaid Barclays dywedwyd:
Mae dal gennych ddigon o opsiynau, yn cynnwys Bancio Ar-lein ac ap Barclays, sydd ar gael 24 awr y dydd.
Os hoffech ddefnyddio cangen wahanol ewch i Landeilo neu Gaerfyrddin.
Gallwch hefyd ymweld ag unrhyw Swyddfa Bost i godi arian, talu arian parod neu sieciau i fewn, a gwirio’ch balans, neu ddefnyddio unrhyw beiriant twll yn y wal LINK i godi arian parod a chael mynediad at lawer o wasanaethau eraill.
Yr un agosaf i’r gangen hon yw Swyddfa Bost, Stryd y Bont. Twll yn y Wal am ddim: HSBC Sgwâr Harford.
Beth ddaw i adeiladau mawreddog a fu unwaith yn fencydd yn ein trefi? A sut y gall Llanbed a’i phobl addasu wrth fancio a masnachu? Amser a ddengys.