Pryder am ddyfodol banc Nat West Llanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Banc Natwest Llanbed

‘Ergyd fawr’ i gymunedau gwledig, yn ôl Ben Lake

Mae pryder am ddyfodol banc Nat West yn Llanbed wrth i Fanc Brenhinol yr Alban (RBS) gyhoeddi fod 259 o ganghennau’n cau ledled gwledydd Prydain.

O’r rhain mae disgwyl y bydd tua ugain ohonyn nhw yng Nghymru gyda phryder am fanc Nat West yn Llanbed ac Aberteifi.

Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi galw’r penderfyniad yn “ergyd fawr”, ac wedi gofyn i Brif Weithredwr NatWest am gyfarfod i drafod y mater.

Er nad yw’r manylion na’r lleoliadau wedi’u datgelu hyd yma, fe allai’r newyddion effeithio ar 1,000 o swyddi drwy Brydain gyda thua 680 o bobol yn colli eu gwaith.

Mae’r safleoedd fydd yn cau yn cynnwys canghennau’r RBS a thua 197 o ganghennau’r Nat West.

‘Cefnu’ ar gymunedau gwledig

Mae banciau eraill eisoes wedi cau eu canghennau yng Ngheredigion, a bellach mae rhai pentrefi –Llandysul a Thregaron yn eu mysg – wedi colli pob un o’u banciau.

“Mae’r banciau masnachol hyn yn cefnu fwyfwy ar gymunedau gwledig ar draws Ceredigion,” meddai Ben Lake.

“Llai na degawd ar ôl i drethdalwyr achub eu crwyn pan oedd yr argyfwng ariannol ar ei gwaethaf, maent nawr yn bygwth tanseilio sylfaen ariannol yr economi leol gyfan.

“Rhaid i ni sicrhau bod y model bancio a fydd gennym yn y dyfodol wedi’i wreiddio yn ein cymunedau – ry’n ni’n haeddu gwell na hyn.”

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook, mae Elin Jones Aelod Cynulliad Ceredigion yn ychwanegu fod hyn yn “newyddion trychinebus” gyda’r disgwyl iddyn nhw gau ym Mehefin 2018.

Daw’r penderfyniad i gau’r canghennau ledled gwledydd Prydain am fod “mwyfwy o gwsmeriaid yn dewis bancio ar-lein neu’n symudol”, yn ôl llefarydd ar ran RBS.