Cau ffyrdd yn Llanbed yn ystod yr wythnos

Gwaith atgyweirio a gorymdaith Sul y Cofio yn amharu ar drafnidiaeth yn y dref.

gan Ifan Meredith

Bydd Ffordd y Bryn ynghau tan 18:00 ar y 10fed Tachwedd oherwydd gwaith atgyweirio argyfwng. Mae hyn yn golygu bydd y ffordd tuag at Sainsbury’s yn gweithredu ar y ddwy ffordd gyda goleuadau traffig dros dro er mwyn galluogi trigolion i ddefnyddio’r maes parcio ger Sainsbury’s. 

Yn ogystal, bydd y gylchfan sy’n cysylltu Heol y Gogledd, Stryd y Coleg, Heol y Bryn a Theras yr Orsaf ar gau rhwng 10:55 a 11:05 y bore ar y 13eg Tachwedd er mwyn cynnal Gwasanaeth Sul y Cofio.