Lluniau gan Aneurin James.
Steffan Walker o Glwb Sarn Helen oedd y dyn cyntaf yn Ras Ffordd 5 Milltir Cwmann eleni mewn 29 munud ac 8 eiliad ac Emma Palfrey (33:35) o Glwb Athletau Caerdydd oedd y fenyw gyntaf i orffen.
Yn trefnu’r digwyddiad ar ran Clwb Sarn Helen yr oedd Siân Roberts Jones yn medru datgan fod y ras wedi llwyddo i ddenu 58 o redwyr ar nos Wener y 1af o Orffennaf eleni, y nifer uchaf ers ei chynnal am y tro cyntaf yn 2012.
Rhwng y ras a’r Ffair Haf ar gae chwarae cymunedol Cwmann llwyddodd y noson i godi dros tair mil o bunnoedd i gefnogi Ysgol Gynradd Carreg Hirfaen.
Yr oedd 32 o aelodau Sarn Helen yn rhedeg ac aeth nifer o’r gwobrau dosbarth i redwyr y Clwb. Ymhlith y dynion, Dylan Lewis (29:31) oedd yn ail yn y ras ac yn nosbarth y dynion dan 40, Gareth Payne (30:33) a Simon Hall (31:04) oedd yn 1af ac ail dan 50, Meic Davies (31:20) a Glyn Price (32:53) oedd yn 1af ac ail dan 60 a Richard Marks (35:37) a Tony Hall (40:04) oedd yn 1af ac ail dros 60. Ymhlith y menywod, yr oedd Jasmine Jones (39:25) a Nicola Williams (39:30) yn ail a 3ydd dan 35, Dee Jolly (34:19) a Pamela Carter (42:15) yn 1af a 3ydd dros 35, Eleri Rivers (37:11) a Jane Holmes (50:37)yn 1af ac ail dros 45, a Lou Summers (35:38) a Liz Pugh ( 44:53) yn 1af ac ail dros 55. Aeth y wobr i dîm o bedwar i Glwb Sarn Helen – ar wahan i lwyddiant Steffan a Dylan cafwyd cefnogaeth ardderchog iddynt gan ddau redwr yn eu harddegau, Johnathan Price (29:58) a Daniel Jones (30:18) yn gorffen yn 4ydd a 5ed yn y ras.
Cynhaliwyd dwy ras ieuenctid hefyd ar y cae. Yn y ras 1500 metr Liam Regan (9:28) o Glwb Caerfyrddin oedd y bachgen cyntaf gyda Harri Rivers (9:50) yn 3ydd dros Sarn Helen. Sioned Kersey (11:04) o Glwb Sarn Helen oedd y ferch gyntaf.
Yn y ras 800 metr Eva Davies (4:01) o Glwb Sarn Helen oedd y cyflymaf. Trystan Williams (4:10) Ysgol y Dderi oedd y bachgen cyntaf, Gruffudd Roderick (4.29) Ysgol Carreg Hirfaen / Sarn Helen yr ail fachgen ac Owen Jac Jones (4.31) Ysgol Dyffryn Cledlyn yn drydydd. Alis Jones (4.44) Ysgol Carreg Hirfaen oedd yr ail ferch ac Abbie Green (4:53) Ysgol Carreg Hirfaen / Sarn Helen oedd y 3edd merch.