Ar fore Sul y 23ain o Hydref cynhaliwyd Ras Goffa Hag Harris yn Llanbed i gofio’r diweddar Robert George Harris, un a fu’n allweddol i sefydlu Clwb Sarn Helen yn y saithdegau hwyr ac a gyfrannodd cymaint i’r Clwb wedi hynny fel cystadleuydd a hyfforddwr.
Y mae lle i ddiolch i Dee Jolly a’i chyd-gynorthwywyr am drefnu’r digwyddiad ar ran y Clwb er gwaethaf ambell i amgylchiad a phrysurwch gyffredinol y calendr.
Ras o ryw 4 milltir oedd hon yn cychwyn ger y Clwb Rygbi cyn dringo Heol y Wig a disgyn heibio i Lyn Glynhebog a dychwelyd ar hyd Lôn Glynhebog a Heol y Bryn i gae’r Clwb Rygbi.
Daeth 72 o redwyr cystadleuol ynghyd (a 73 o gerddwyr) ac, yn naturiol, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau neu’n ffrindiau i’r Clwb.
Un o aelodau ieuengaf y Clwb, Johnathan Price, oedd y cyntaf i orffen a hynny mewn 25 munud a 3 eiliad gyda Dylan Lewis (26:04) yn 3ydd yn nosbarth agored y dynion. Aelod ffyddlon arall o’r Clwb, Caryl Wyn Davies (28:41) oedd y fenyw gyntaf. Aeth y rhan fwyaf o’r gwobrwyon i aelodau’r Clwb – Simon Hall (25:55) a Mark Rivers (27:02) yn 1af a 3ydd o’r dynion dros 40; Meic Davies (25:39), Nigel Davies (26:42) a Glyn Price (27:54) yn 1af, ail a 3ydd o’r dynion dros 50; Calvin Williams (31:10) yn ail yn nosbarth y dynion dros 60; Nicola Wiliams (33:25) yn 3ydd yn nosbarth agored y menywod; Pamela Carter (36:34) yn 3ydd o’r menywod dros 35; Eleri Rivers (30:10) yn 1af o’r menywod dros 45; Lou Summers (28:53) a Delyth Crimes (32:13) yn 1af ac ail o’r menywod dros 55.
Cynhaliwyd y gwobrwyo a darparwyd lluniaeth yn y Clwb Rygbi wedi’r ras a chafwyd gair o deyrnged i Hag gan ei gyfaill a’i gyd-sylfaenydd Wish Gdula gan osod yr achlysur yn ei gyd-destun mewn modd addas dros ben.