Gwobrau Hir-Wasanaeth CAFC i Weithwyr Amaethyddol yr ardal

Bydd wynebau cyfarwydd yn derbyn medalau yn y Sioe Fawr ddydd Llun

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
gwasanaeth-oes

Bydd pump o weithwyr amaethyddol o’r ardal hon, yn derbyn Medal Hir-Wasanaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru mewn cydnabyddiaeth o’u hymroddiad i’r diwydiant amaethyddol yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun.

Y rhai lleol sy’n derbyn medalau eleni yw:

  • Aneurin Glyndwr Davies, o Barc-y-rhos, Cwmann sydd wedi gweithio i W D Lewis a’i Fab, Masnachwyr Amaethyddol, Llanbed am 48 mlynedd.
  • David Rees Davies (Dewi), o Lanllwni sydd wedi gweithio i David Thomas Hefin Evans, Mart Llanybydder am 60 mlynedd.
  • David Tom Lloyd Davies (Dewi), o Lanybydder sydd wedi gweithio i David Thomas Hefin Evans, Mart Llanybydder am 60 mlynedd.
  • Doreen Lloyd, o Ffarmers sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 49 mlynedd, yn fwyaf diweddar yn JJ Morris Auctioneers & Valuers, V King Thomas, Lloyd Jones & Williams, Marchnad Hendygwyn-ar-Daf.
  • Elgan Iorwerth Thomas, o Lanbed, sydd wedi gweithio i  W D Lewis a’i Fab, Masnachwyr Amaethyddol, Llanbed, am 51 mlynedd.

Mewn datganiad ar ran Cwmni Evans Bros, Llanybydder, dywedodd Ffion Evans:

Pleser oedd cael enwebu Doreen Lloyd, Dewi Davies a Dewi Davies ar gyfer y wobr gwasnaeth oes i amaethyddiaeth a bydd yn braf eu gweld ar lwyfan y Sioe Frenhinol yn cael eu cyflwyno gyda’r wobr.

Er bod y ddau Dewi Davies bellach wedi ymddeol, roeddent yn gweithio i’r cwmni ers oed ifanc iawn ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu cyfraniad hir oes at y cwmni. Gan fod y ddau a’r un enw, rhoddwyd yr enw Dewi Cash i Dewi Davies o Lanybydder gan mai fe oedd yn delio gyda chyfrifion y cwmni a rhoddwyd yr enw Dewi Auctioneer i Dewi Davies o Lanllwni gan mai fe oedd un o’r arwerthwyr. Mae pawb felly yn eu hadnabod fel Dewi Cash a Dewi Auctioneer!

Mae Doreen Lloyd o ardal Ffarmers yn dal i weithio gyda ni, yn ogstal â sawl mart arall yn yr ardal ac wedi gwneud ers blynyddoedd bellach. Er ei bod yn ffermio adre mae’n mwynhau ei diwrnodau o waith yn y mart ac adnabod pawb!

Rydym ni fel cwmni yn ddiolchgar i’r tri am eu gwasanaeth i’r cwmni ac yn edrych mlaen i’w gweld yn derbyn y wobr yn y sioe frenhinol ddydd Llun.

Dywedodd Dafydd Lewis o gwmni W D Lewis a’i Fab, Llanbed:

Mae Elgan ac Aneurin wedi bod yn ddau weithiwr caled iawn dros y blynyddoedd ac yn ffyddlon eithriadol i W D Lewis a’i Fab fel busnes sy’n cyflenwi’r diwydiant amaethyddol.

Dechreuodd y ddau weithio gyda fy nhad-cu gan barhau i weithio gyda fy nhad a finnau yn y blynyddoedd diweddar.  Maen nhw fel aelodau o’r teulu.

Bu’r ddau yn yrwyr lori gyda ni am flynyddoedd mawr gan fynd â bwydydd anifeiliaid a gwrtaith i ffermydd ardal eang.  Mae Elgan dal i weithio gyda ni’n rhan amser yn ein siop ym Mhumsaint ac ymddeolodd Aneurin eleni ar ei ben-blwydd yn 65 oed.

Rydym yn diolch o waelod calon i’r ddau am eu teyrngarwch ac yn hynod o falch eu bod yn cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniad i’r diwydiant amaethyddol yn lleol.

Cyfraniad anferth felly gan y pump ohonyn nhw sy’n dweud llawer am y ddau gwmni hefyd fel cyflogwyr yn yr ardal dros y blynyddoedd.