Lluniau gan Rebecca Doswell
Daeth hanner marathon Pumsaint yn un o uchafbwyntiau blwyddyn Clwb Sarn Helen erbyn hyn ac mae’r diolch i Carwyn Davies am ei threfnu eleni eto ar y 18fed o Fedi.
Daeth 87 o redwyr ynghyd yn yr heulwen i redeg y cwrs llwybr heriol hwn drwy’r elltydd i fyny Dyffryn Cothi ac yn ôl lawr i Bumsaint. Yr oedd 23 o aelodau’r clwb yn eu plith ac er mai Ollie George o glwb Sir Benfro oedd y cyntaf i orffen mewn 1 awr 26 munud a 35 eiliad yr oedd nifer ohonynt yn hawlio gwobr.
Unwaith eto Steffan Walker (1:30:42) oedd rhedwr cyflymaf y clwb gan orffen yn ail yn y ras a’r nesaf ato oedd Simon Hall (1:36:29) yn 5ed yn y ras ac yn 3ydd o’r dynion dros 40 ond cael a chael oedd hi rhyngddo ef a Glyn Price (1:37:19) enillydd dosbarth y dynion dros 50. Yn dynn ar ei sodlau yntau yr oedd Irfon Thomas (1:38:13) yn cipio’r 3ydd safle yn nosbarth y dynion dan 40.
Kitty Robinson o Narberth (1:38:59) aeth a gwobr gyntaf y menywod ac er y bu rhaid i Dee Jolly (1:40:14) fodloni ar ddod yn gyntaf yn y dosbarth dros 35 fe lwyddodd i drechu Wendy Price o glwb Dyffryn Aman (1:43:04) y tro yma.
Hefyd gwobrwywyd Arwyn Davies (1:45:33) yn ail yn nosbarth y dynion dros 50, Lou Summers (1:49:16) yn 1af o’r menywod dros 55, Eleri Rivers (1:50:35) yn 1af o’r menywod ros 45, a Tony Hall (1:58:35) yn ail o’r dynion dros 60.
Yr oedd yr achlysur hefyd yn cynnwys ras 6 milltir a hanner a ras ieuenctid. Braf oedd gweld Calvin Williams (1:00:04) yn ennill y naill a Harri Rivers (7:22) yn ennill y llall gyda Tomos Green (7:37) yn ail fachgen a Ben Hall (8:27) yn 3ydd fachgen. Eva Davies (7:57) oedd y ferch gyntaf, Mia Lloyd (9:03) yn ail ac Evelyn Eadon (9:28) yn 3ydd.