Dyma barhau ag uchafbwyntiau straeon Clonc o fis i fis yn y ganrif ddiwethaf, a chanolbwyntio ar fis Hydref y tro hwn.
1982
Llambed – Yr Athro Marks yn ymddeol o’i swydd fel Darlithydd Uwch yn Adran y Gymraeg wedi 26 mlynedd.
Eisteddfod – Sefydlu Pwyllgorau ac Is bwyllgorau Eisteddfod ’84. Swyddfa’r ’Steddfod uwchben siop y P&D Co-op.
Cwrtnewydd – Dosbarth Efrydiau Allanol yn dechrau, y darlithydd – Dr. Evan James. Llangybi. Croesawu Ken Evans, Maesyfelin yn ôl o’r Falklands
1983
Llambed – Dynion y Frigâd Dân yn ymladd y tân yn ‘Amoco’, Aberdaugleddau. Noson i anrhydeddu Nyrs Meg Morris – yn ymddeol fel Ymwelydd Iechyd.
Llangybi – Ail-agor Capel Maesyffynnon.
1984
Llambed – Siom o weld rhai o’r arwyddion Cymraeg yn cael eu tynnu i lawr yn syth wedi’r Eisteddfod. Galw am fwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn siopau’r dre. 200 o dai i Lambed?
Gorsgoch – Y Parch. Olaf Davies yn bedyddio 8 o bobol ifanc ym Mis Awst a 4 arall ym mis Medi yn yr awyr agored.
Cwmsychpant – Rasus jalopi.
1985
Cellan – Ymgyrch ‘Curiad Calon’ i godi ymwybyddiaeth am iechyd corfforol – dosbarthiadau cadw’n heini a bwyta’n iach.
Llangybi – Dosbarthiadau ‘Cerdd Dafod’ Roy Stephens yng Nghanolfan y Dderi bob nos Iau.
Golygyddol – Canmoliaeth i rai o siopau’r dre’ sydd wedi gosod arwyddion Cymraeg – lle i wella yn y Banciau!
1986
Cwmann – Aled Williams, Y Fedw yn ennill Medal Aur yng nghystadleuaeth Enduro yn yr Eidal.
Llanybydder – Llun Cwmni Drama o’r 30au.
Llangybi – Capel Maesyffynnon yn dathlu 150.
Llambed – 2 ymladdwr tân yn ymddeol: Delme Harries (23ml) ac Aneurin Jones(26 ml)
1987
Yr Ysgol Gyfun – Gweithgareddau codi arian i gael Bws Mini i’r ysgol.
Llambed – Llyfr o waith Miss Eiddwen James ar werth, yr elw i gyd tuag at ‘Cymorth Cristnogol’.
1988
Llanwnnen – Cyflwyno tysteb i Mrs. Olwen Williams ar ei hymddeoliad fel Post-feistres y pentref am dros 50 mlynedd. Croeso i Bill a Barbara Cooper i Swyddfa’r Post.
Llangybi – Dadorchuddio cofeb yng Nghanolfan y Cilgwyn i Mrs. Edith Williams, cyn Brifathrawes Ysgol Llangybi.
Llambed – Dilys a Glyn Jones yn ymadael o’r Llew Du.
Yr Ysgol Gyfun – Cyflwyno cyfrolau o Gyfrifiadau’r (Censuses) bedwaredd ganrif ar bymtheg i bentrefi’r ardal. Penllanw 5 mlynedd o waith gan y disgyblion.
1989
Addysg – UCAC yn trefnu cyfarfod cyhoeddus yn galw am ysgol ddwyieithog i Lambed.
Llambed/Cwmann – Colli penteulu a chymwynaswr bro, – Mr. W.D.Lewis, Tanlan.
Gary Slaymaker – Rhaglen radio bob nos Wener.
Cwmsychpant – Frank Richards, Blaenllain yn derbyn tystysgrif y Gymdeithas Amddiffyn Bywyd am achub bywyd gŵr yn Llandysul o’r tân yn ei gartref.
1990
Llanybydder – Tîm rygbi’r pentre yn chwarae yn erbyn Tîm y Sosban, Llanelli er mwyn codi arian i Victor Morris. Sefydlu Clwb Pêl-droed newydd yn y pentre.
Llambed – Côr Brethyn Cartre a Delyth Medi yn canu i Gymry Llundain.
1991
Llanybydder – Elwyn Davies yn agor festri newydd Aberduar. Sefydlu Clwb Pel-droed newydd yn y pentre’.
Cwrtnewydd. ‘Ffair Wenog’ yn codi arian at Eisteddfod Aberystwyth.
1992
Llanybydder – Ysgol Llanybydder yn ennill Tarian diwylliant Alun. R.Edwards fel yr ysgol mwyaf gweithgar yng ngweithgareddau Llyfrgell Dyfed.
Cadwraeth – Rhodri Thomas, Cellan, a Daniel Jones, Llanwenog yn ennill gwobrau cendlaethol am ysgrifennu am ‘Cadwraeth a bywyd cefn gwlad’
1993
Radio – Ceredigion Opera Sebon ‘Bontlwyd’ yn dechrau.
Gorsgoch – James Lloyd (Llain gynt) wedi ei ddyrchafu yn ‘Superintendant’ gyda Heddlu De Cymru.
Llanllwni – Tai ardal Abergiar dan 2 droedfedd o ddŵr. Miss Eluned Jones, Plasnewydd yn ymddeol fel gofalwraig yr ysgol wedi 32 o flynyddoedd.
1994
Llanwenog – Gillian Jones, Meysydd yn ennill Coron Pantyfedwen a Marian Davies, Maesnewydd y gadair dan 25. (Elsie Reynolds yn ennill y Fedal Ryddiaith).
Llambed – Gwasanaeth dwyieithog ar gael yn Banc y Nat West. Y Gymdeithas Drafod wedi bod ar daith yn Norfolk.
1995
Llambed – Llyfrgell newydd i Ysgol Ffynnonbedr.
Llanwnnen – Yr ysgol yn ennill Cystadleuaeth Gofal Cefn Gwlad i ysgolion cynradd.
1996
Cwrtnewydd – Cyn-ddisgyblion yn cofio 3 o gyn-athrawon. Neuadd Seion dan ei sang gyda 2 noson o gyngherddau.
Llambed – Mr a Mrs Olifer Williams yn symud i Gaerdydd.
Llanybydder. Ad-uniad Staff Ysgol y Dolau.
1997
Llambed – Gwyn Lewis a Gwynfor Lewis yn mynd â rhoddion i Bosnia a Croatia. Merched y Wawr yn dathlu 25. George Gibbs yn 80 oed. Codi arian at Uned Gofal Dwys y Galon i blant yn Ysbyty’r Waun, Caerdydd.
Cwrtnewydd – Siwper Jim yn arddangos llestri Abertawe yn Festri Seion, codi arian at Eisteddfod yr Urdd ‘99.
1998
Llambed – Agor Siop a Swyddfa’r ’Steddfod yn Neuadd y Dre Llanybydder. Tymor llwyddiannus eto i’r Tîm Criced – Pencampwyr Cynghrair Gorllewin Cymru am y 3ydd flwyddyn yn olynol.
Hanes Cwmni Drama Llanybydder a Llanllwni 1930-60.
1999
Gorsgoch – Apêl y Gors yn codi £36,000 at Uned Chemotharapy Glangwili.
Llanybydder – Y Parch Wyn Vittle yn dathlu 40 mlynedd yn y weinidogaeth gyda’r Bedyddwyr.
Llambed – Hanna Lewis yn cymryd rhan yn y gyfres ‘Marinogion’ ar gyfer S4C.
Dyma’r uchafbwyntiau misol a gyhoeddwyd gennyf hyd yma:
Fe ddaw uchafbwyntiau mis Tachwedd cyn bo hir.