Ers Dydd Sul yr 8fed o Fai mae tri o ddynion clwb seiclo Sarn Helen wedi dechrau ar sialens fawreddog sef ‘Lampeter LEJOG 2022’. Bwriad y sialens gan Barry Davies, John McDonagh a Dallas Wiseman yw seiclo o Land’s End i John O’Groats mewn 10 diwrnod gyda chymorth Kevin Evans.
I gwblhau’r sialens mae’n rhaid iddynt seiclo tua 100 milltir bob dydd. Wrth gyflawni’r sialens maent yn awyddus i godi arian i gefnogi tair elusen sydd yn agos iawn i’w calonnau sef: elusen Hywel Dda, Tir Dewi a MNDA.
Dechreuodd y criw o Land’s End am 8 o’r gloch fore dydd Sul a chyrraedd Yelverton am 7:15y.h. Croeswyd dros 3 croesfan ar long, dringo drychiad o 9000 o droedfeddi a chwblhau 102.3 milltir.
Diwrnod 2 a bant â nhw o Yelverton gan ddringo dros Dartmoor yn yr ychydig o filltiroedd cyntaf. Yn ystod y daith dringwyd 7464 o droedfeddi o ddrychiad a chwblhau’r diwrnod yn Wells wedi teithio 102.2 milltir.
Bant â nhw o Wells y diwrnod wedyn gyda’r tywydd ddim cystal â’r ddau ddiwrnod cyntaf. Yng Nghas-gwent gwnaeth pedwar o’u cyd-aelodau yng nghlwb seiclo Sarn Helen sef Eric Rees, Dorian Rees, Teifion Davies a Carwyn Davies ymuno â’r criw. Ar ôl 6631 o droedfeddi o ddrychiad a 103 o filltiroedd gorffennwyd yn Knighton.
Bore gwlyb oedd yn wynebu’r criw ar ddechrau diwrnod 4 wrth iddynt adael Knighton a bwrw am yr Amwythig. Roedd y criw yn falch o weld y glaw yn cilio ar ôl cinio ac ar ôl 95 milltir o seiclo gorffennwyd yn Warrington.
Mae’r criw yn ddiolchgar iawn am bob arwydd o gefnogaeth maent wedi ei dderbyn ac o hyd yn ei dderbyn wrth iddyn nhw agosáu at John O’Groats. Maent yn gobeithio cwblhau’r daith ar yr 17eg o Fai.
Gallwch ddilyn eu taith ar eu tudalen Facebook ‘Lampeter LEJOG 2022’ a’u cefnogi wrth gyfrannu ar dudalen Just Giving.