Ar ddydd Mercher, y 6ed o Orffennaf ymwelodd Anwen Eleri a Menna Jones ag Ysgol Bro Pedr er mwyn dilysu safonau’r siarter iaith i’r ysgol.
Yn dilyn hyn, sector Uwchradd Bro Pedr yw’r ysgol Uwchradd gyntaf yng Ngheredigion i gyrraedd Cam Arian y Siarter Iaith a’r sector Cynradd y trydydd yn y sir i gyrraedd y Cam Aur.
Mae’r gweithredoedd i dderbyn y safonau yma ac i hybu’r iaith Gymraeg yn cynnwys:
- troi’r Cyfnod Sylfaen yn gwbl Gymraeg.
- ail-sefydlu Clwb Cymraeg yn yr Uwchradd.
- gwrando ar lais y disgybl.
- sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle blaenllaw yn yr ysgol.
- creu heriau amrywiol megis Gwyl Ddewi ac Heriau’r Hanner.
- creu a chyfrannu at fideos megid Shwmae Su’mae a Neges Heddwch ac Ewyllys da.
- syfydlu cyfrif Instagram.
- gwerthu rhosys ar ddiwrnod Santes Dwynwen.
- darparu sticeri am siarad Cymraeg.
- codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth a bandiau Cymraeg.
- dathlu’n Cymreictod.
- Mwy yn cymryd rhan a chystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Diolch yn fawr i’r Pwyllgor Cymreictod gweithgar, y disgyblion a’r staff sydd wedi bod yn helpu i gyrraedd y safonau uchel yma – gwaith tîm gwych.
Wrth edrych ymlaen at flwyddyn nesaf, edrycha’r Pwyllgor ymlaen at sefydlu system sain er mwyn chwarae cerddoriaeth Cymraeg yn y coridorau a’r ffreutur. Hefyd, mae aelodau’r Pwyllgor yn yr Uwchradd yn edrych ymlaen at ddychwelyd i hybu’r Gymraeg yn y Cynradd.