Mae’r daucanmlwyddiant yn dathlu sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed ar 12 Awst 1822 drwy osod y garreg sylfaen sy’n nodi man geni addysg uwch yng Nghymru. O’r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl a datblygiad ein campysau, rydym wedi tyfu i fod yn Brifysgol sector deuol, aml-gampws gan ddarparu rhaglenni sy’n berthnasol yn alwedigaethol mewn partneriaeth â chyflogwyr.
Mae’r arddangosfa ‘Esgob Thomas Burgess a’i weledigaeth am Goleg i Gymru’ yn edrych yn ôl ar weledigaeth Esgob Burgess i greu sefydliad addysg uwch yng Ngorllewin Cymru. Sefydlodd Coleg Dewi Sant, Llambed i ddarparu addysg ar gyfer dynion lleol a siaradai Gymraeg ac a ddymunai ymuno â’r offeiriadaeth.
Mae rhan gyntaf yr arddangosfa yn disgrifio gweledigaeth Burgess am goleg yng Ngorllewin Cymru a’r modd yr oedd Esgob Burgess yn ymrwymedig i’r weledigaeth am fwy nag ugain mlynedd. Yn yr archifau ceir nifer mawr o lythyron a dogfennau sy’n datgelu’r gwaith aruthrol a gyflawnodd i gyflawni’r weledigaeth.
Mae ail ran yr arddangosfa yn ymdrin â chasgliad sylweddol Esgob Burgess ei hun o lyfrau a adawodd i Lambed. Mae’r casgliad yn cynnwys llawysgrif ysblennydd o’r Fwlgat o 1279, a chopi o’r Golden Legend, sy’n disgrifio bucheddau saint, wedi’i argraffu gan Wynkyn de Worde, olynydd William Caxton.
Meddai Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu: “Hoffwn i groesawu pawb i arddangosfa gyntaf ein Casgliadau Arbennig ac Archifau yn 2022. Roedd Esgob Thomas Burgess yn ymrwymedig i’w weledigaeth o greu sefydliad addysg uwch yng ngorllewin Cymru, felly mae’n briodol ein bod yn dathlu yma fywyd a gwaith Esgob Burgess wrth i’r Brifysgol gychwyn ar flwyddyn ei daucanmlwyddiant.
“Yn Archifau y Brifysgol ceir nifer mawr o lythyron a dogfennau sy’n datgelu’r gwaith aruthrol a gyflawnodd i gyflawni’r weledigaeth hon. Maen nhw’n adrodd stori dyn oedd yn ymroddedig i’w rôl yn Esgob Tyddewi, a oedd hefyd yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd addysgol yn ei esgobaeth. Drwy’r arddangosfa hon gallwn gael ein hysbrydoli gan yr unigolyn nodedig hwn a chael ein symbylu i barhau i adeiladu ar ei waddol i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau.”
Bydd yr arddangosfa i’w gweld o 4 Ionawr tan ddiwedd y mis yn llyfrgell campws Llambed, ac yn llyfrgell y Fforwm ar gampws Glannau Abertawe. Bydd yr arddangosfa ar gael i’w gweld ar-lein hefyd.