gan
Dan ac Aerwen
Rydym ni sy’n byw ar heol Llanfair yn gyfarwydd iawn â gweld a chwrdd â lorïau enfawr sydd yn dosbarthu nwyddau i ffermydd lleol neu i’r Siop.
Fodd bynnag rhai diwrnodau ‘nôl daeth lori fwy nag arfer lan mor bell â’r Siop a rhoi cynnig ar fynd dros bont Llanfair.
Ar ôl mynd beth o’r ffordd ar hyd y bont ar y 24ain o Fawrth, sylweddolodd y dreifyr nad oedd hyn yn bosib gan fod tro yn y bont a’i bod yn rhy gul.
Gyda llawer o gymorth oddi wrth bobol leol mi ddaeth i ben, mewn amser, â symud modfedd wrth fodfedd i ddod nôl, a throi y lori.
Dywedodd y dreifyr mai dyma’r lle gorau yn y wlad i hyn i ddigwydd iddo gan fod y wlad mor brydferth a phawb mor garedig iddo.