Wyddech chi fod Marchnad Ffermwyr yn Llanybydder erbyn hyn?
Dywed Dinah Mulholland “Sefydlwyd Marchnad newydd Llanybydder, gan Gyngor Cymuned Llanybydder. Roedd y farchnad gyntaf fis diwethaf – maen nhw’n cael eu cynnal ar ddydd Iau olaf o bob mis i gyd-fynd â’r Mart Ceffylau. Y nod yw cefnogi masnachwyr, cynhyrchwyr bwyd a busnesau lleol gyda chyllid o’r Cynllun Deg Tref er mwyn adfywio trefi gwledig Sir Gaerfyrddin.”
Felly beth am alw draw i Faes Parcio’r Clwb Rygbi ddydd Iau rhwng 10yb a 2yp er mwyn gweld beth sydd yna?
Dyma fasnachwyr ddydd Iau:
CWTCHY TOTS CLOTHING – Handcrafted children’s clothing from tiny baby to 12 years old.
GWELLA – Cig oen ac eidion lleol wedi’i goginio a’i gwrio ffres o gegin y fferm.
ROASTED & TOASTED – te, coffi, brechdanau wedi’u tostio, bapiau brekwast
ABERNAINT FARM SHOP – Planhigion llysiau a blodau, wyau ffres
CARDIAU WENDY’S CARDS
ROOTS – Perlysiau coginio
WOWW – Dillad vintage
PANTYFOD – Paella llysieuol a rhostio mochyn
FYNNON FIBRES – Gwlan a Chnu
GATHER BY JULES – Planhigion tŷ, macrame, gwaith crosio
MADARCH WALES
Celf a Chrefft
STEP UP CYMRU – codi arian i chwaraeon cadair olwyn
TASTY LOCAL CAKES – cacennau a brownis heb glwten
Bydd te a choffi ar werth yn y Clwb Rygbi hefyd.