Mae’n wir i ddweud bod yna ddigon o wlân wedi bod ynghlwm â digwyddiad premier y ffilm nos Fercher yn y Babell Lên am 7:30 y.h.
Mewn gorymdaith, cerddodd llawer o aelodau gyda sgarff allan o wlân a oedd yn 150 medr o hyd o babell Merched y Wawr i’r Babell Lên ac yna ffilm am wlân yn cael ei arddangos yno.
‘Hefyd, oeddech chi’n cal grwpiau yn dod at ei gilydd i weu’
Mae’n amlwg felly bod y prosiect yma wedi dod â phobl at ei gilydd a chymdeithasu eto wedi’r cyfnodau clo.
Mewn cyfweliad, medd Owena Davies bod y testun ‘Gwlân’ wedi cael ei ddewis gan fad gan ‘bawb rhyw gysylltiad â gwlân.’
Daeth ysbrydoliaeth y cynllun flwyddyn nôl wrth drafod am beth fyddai cyflwyniad y mudiad amdano ar faes yr Eisteddfod eleni.
I wireddu hyn i gyd, bu’n rhaid cael cymorth ariannol a chafwyd grant sylweddol gan y Loteri Cenedlaethol i helpu canghennau i ail-gysylltu. Cyflogwyd Lowri Steffan ac Anna ap Robert i wneud y gwaith sgriptio a choriograffi yn y ffilm. Sbardun y sgript oedd y gerdd ‘O bwyth i bwyth’ gan Enfys Hatcher Davies. Mae’n wir i ddweud bod y ffilm yma wedi tynnu pobl at ei gilydd gan fod yna amrywiaeth o ddarnau hanes a modern ynddo. O ddawnsio, i ganu, i lefaru. Ond pwysleisiodd Owena mai bach iawn yw’r pethau traddodiadol sydd yn y ffilm. Cyflogwyd Lowri Steffan ac Anna ap Robert a llawer o bobl eraill i gynorthwyo â’r ffilm. Wedi i mi wylio’r ffilm yn y premier, mae’ n rhaid dweud ei bod yn dod â gwên i wynebau wrth ei wylio.
Yn ôl Merched y Wawr, ni fydd y ffilm yn cael ei chyhoeddi eleni ond yn mynd o gwmpas canghennau ledled Cymru i’w dangos cyn cael ei chyhoeddi.