Lluniau gan Aneurin James
Ychwanegodd Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth fuddugoliaeth arall i’w dymor o lwyddiant yn ras ffordd 6 milltir Felinfach ar noson y 24ain o Fehefin wrth i ffyddloniaid y ras hon ddychwelyd yn eu niferoedd wedi’r ddwy flynedd o seibiant i gefnogi’r ysgol gynradd.
Er nad oedd y tywydd yn hafaidd o gwbl daeth 69 i redeg y ras i oedolion a drefnwyd unwaith eto gan Lywydd y Clwb Sarn Helen, Lyn Rees.
Cwblhawyd y cwrs gan Owain mewn 32 munud a 41 eiliad gyda Steffan Walker (33:34) – un o 34 aelod o Glwb Sarn Helen yn y ras – yn ail o drwch blewyn o flaen Phil Morris o glwb Llanfair Ym Muallt. Ei gymar Donna Morris o’r un clwb oedd y fenyw gyntaf gan orffen yn 5ed yn y ras mewn amser ardderchog (34:34.)
Yn anochel aeth rhan helaeth o’r gwobrau i Sarn Helen gyda Daniel Jones (35:31) yn 3ydd o’r dynion dan 40, Simon Hall (36:01) yn 3ydd o’r dynion dros 40, Meic Davies (36:27) yn 1af o’r dynion dros 50, Glyn Price (37:40) ac Arwyn Davies (39:06) yn ail a 3ydd yn y dosbarth hwnnw. Dee Jolly (40:23) oedd yr ail fenyw i orffen y ras ac yn ail yn nosbarth y menywod dros 35, gyda Lou Summers (41:24) yn ennill y dosbarth dros 45 ychydig o flaen Fabi Findlay (41:42) a ddaeth yn 3ydd yn y dosbarth dros 35, hithau’n cael ei chwrso gan Eleri Rivers (42:00) yr ail yn y dosbarth dros 45.
Enillydd y dosbarth i fenywod dan 35 oedd Jasmine Jones (45:19) yn 16 oed ac yn rhedeg ei ras gyntaf yn y dosbarth. Nicola Williams (48:07) aeth a’r ail safle yn y dosbarth hwnnw. Sarn Helen oedd y tîm buddugol hefyd.
Braf oedd gweld niferoedd da yn y rasys ieuenctid hefyd. Yn y ras 3000 metr daeth Harri Rivers (12:07) yn 3ydd tu ôl i’r enillydd Liam Regan o glwb Caerfyrddin a Sioned Kersey (13:36) a Mia Lloyd ((14:03) yn ail a 3ydd tu ôl i Leah Regan o glwb Caerfyrddin. Yn y ras 1500 metr daeth Ben Hall (6:52) yn 3ydd ac Elis Herrick (6:56) yn dynn ar ei sodlau. Enillydd y ras 800 metr oedd Gruff Hodgson o Ysgol Ciliau Parc mewn amser cyflym iawn (3:45).