Ras 6 milltir Felinfach 

Ffyddloniaid y ras yn dychwelyd yn eu niferoedd wedi dwy flynedd i gefnogi’r ysgol gynradd.

gan Richard Marks
Owain Schiavone yn Felinfach
Donna Morris a James Cowan yn Felinfach
Daniel Jonesa Smon Hall yn Felinfach
Dee Jolly yn Felinfach
Jasmine Jones yn Felinfach
Arwyn Davies yn Felinfach
Meic Davies yn Felinfach
Fabi Findlay yn Felinfach

Lluniau gan Aneurin James

Ychwanegodd Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth fuddugoliaeth arall i’w dymor o lwyddiant yn ras ffordd 6 milltir Felinfach ar noson y 24ain o Fehefin wrth i ffyddloniaid y ras hon ddychwelyd yn eu niferoedd wedi’r ddwy flynedd o seibiant i gefnogi’r ysgol gynradd.

Er nad oedd y tywydd yn hafaidd o gwbl daeth 69 i redeg y ras i oedolion a drefnwyd unwaith eto gan Lywydd y Clwb Sarn Helen, Lyn Rees.

Cwblhawyd y cwrs gan Owain mewn 32 munud a 41 eiliad gyda Steffan Walker (33:34) –  un o 34 aelod o Glwb Sarn Helen yn y ras  – yn ail o drwch blewyn o flaen Phil Morris o glwb Llanfair Ym Muallt. Ei gymar Donna Morris o’r un clwb oedd y fenyw gyntaf gan orffen yn 5ed yn y ras mewn amser ardderchog (34:34.)

Yn anochel aeth rhan helaeth o’r gwobrau i Sarn Helen gyda Daniel Jones (35:31) yn 3ydd o’r dynion dan 40, Simon Hall (36:01) yn 3ydd o’r dynion dros 40, Meic Davies (36:27) yn 1af o’r dynion dros 50, Glyn Price (37:40) ac Arwyn Davies (39:06) yn ail a 3ydd yn y dosbarth hwnnw. Dee Jolly (40:23) oedd yr ail fenyw i orffen y ras ac yn ail yn nosbarth y menywod dros 35, gyda Lou Summers (41:24) yn ennill y dosbarth dros 45 ychydig o flaen Fabi Findlay (41:42) a ddaeth yn 3ydd yn y dosbarth dros 35, hithau’n cael ei chwrso gan Eleri Rivers (42:00) yr ail yn y dosbarth dros 45.

Enillydd y dosbarth i fenywod dan 35 oedd Jasmine Jones (45:19) yn 16 oed ac yn rhedeg ei ras gyntaf yn y dosbarth. Nicola Williams (48:07) aeth a’r ail safle yn y dosbarth hwnnw. Sarn Helen oedd y tîm buddugol hefyd.

Braf oedd gweld niferoedd da yn y rasys ieuenctid hefyd. Yn y ras 3000 metr daeth Harri Rivers (12:07) yn 3ydd tu ôl i’r enillydd Liam Regan o glwb Caerfyrddin a Sioned Kersey (13:36) a Mia Lloyd ((14:03) yn ail a 3ydd tu ôl i Leah Regan o glwb Caerfyrddin. Yn y ras 1500 metr daeth Ben Hall (6:52) yn 3ydd ac Elis Herrick (6:56) yn dynn ar ei sodlau. Enillydd y ras 800 metr oedd Gruff Hodgson o Ysgol Ciliau Parc mewn amser cyflym iawn (3:45).