Bydd Meddygfa Taliesin Llanbed a Meddygfa Brynmeddyg Llanybydder ar gau ar:
- Dydd Llun 26 Rhagfyr 2022
- Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 2022
- Dydd Llun 2 Ionawr 2023
Dyma’r fferyllfeydd lleol a fydd ar agor dros yr Ŵyl:
Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr 2022 – Noswyl Nadolig
Fferyllfa Adrian Thomas, Llanbed 9 yb – 1 yp
Boots, Llanbed 9 yb – 4 yp
Fferyllfa Lloyds, Llanbed 9 yb – 1 yp
Dydd Sul 25 Rhagfyr 2022 – Dydd Nadolig
Boots, Llandysul 4 yp – 5 yp
Dydd Llun 26 Rhagfyr 2022 – Gŵyl San Steffan
Fferyllfa Adrian Thomas, Llanbed 2 yp – 4 yp
Fferyllfa Lloyds, Llandysul 4 yp – 5 yp
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 2022 – Gŵyl y Banc
Boots Aberystwyth 10 yb – 4 yp
Morrisons Aberystwyth 10 yb – 4 yp
Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr 2022 – Noswyl Calan
Fferyllfa Adrian Thomas, Llanbed 9 yb – 1 yp
Boots, Llanbed 9 yb – 4 yp
Dydd Sul 1 Ionawr 2022 – Dydd Calan
Fferyllfa Penrhyn, Aberporth 2 yp – 4 yp
Boots, Llandysul 4 yp – 5 yp
Dydd Llun 2 Ionawr – Gŵyl y Banc
Fferyllfa Penrhyn, Aberporth 2 yp – 4 yp
Boots Aberystwyth 10 yb – 4 yp
Morrisons Aberystwyth 10 yb – 4 yp
Mae newidiadau i gasgliadau biniau yn Sir Gaerfyrddin dros y Nadolig:
Dydd Llun 26 Rhagfyr – cesglir biniau ar ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr. Bydd pob diwrnod arall fel arfer.
O ddydd Llun 2 Ionawr – bydd casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach nag arfer.
O ran Gwasanaeth Casglu Gwastraff yng Ngheredigion mae’r Cyngor Sir yn hysbysu preswylwyr bod yna ffactorau yn mynd i effeithio ar y trefniadau eleni:
“Os nad ydym yn gallu casglu eich gwastraff, dylech ei ail-gyflwyno ar eich diwrnod casglu nesaf.
Bydd ein timau, sy’n gweithio’n galed trwy’r flwyddyn, yn gwneud eu gorau i gynnal cymaint o lwybrau casglu gwastraff â phosib dros yr wythnos sydd i ddod.
Fodd bynnag, cadwch olwg am wybodaeth am y llwybrau na fydd yn bosibl i ni gasglu gwastraff ar wefan y cyngor.
Dywedodd y Cyng Keith Henson ar facebook “Mae staff yn trual i gore mas na” ond bod angen cofio bod posibilrwydd na fydd sbwriel yn cael eu casglu fel y trefnwyd mewn rhai ardaloedd.