Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr

Manylion am holl weithgareddau’r Fenter gan gynnwys Sesiynau Stori yn Neuadd Sant Iago, Cwmann.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Sesiynau stori:

Rydym yn ail-gychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar yr 28ain o Chwefror, 7fed, 14eg, 21ain a 28ain o Fawrth a 4ydd o Ebrill. Yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât ar yr 2il, 9fed, 16eg, 23ain a 30ain o Fawrth a 6ed o Ebrill. Ac yng Nghwmann ar ddydd Iau yn Neuadd Sant Iago ar y 3ydd, 10fed, 17eg, 24ain a 31ain o Fawrth a 7fed o Ebrill. Bydd y sesiynau yn cychwyn am 10:30yb ym mhob lleoliad. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda gwawr@mgsg.cymru i gofrestru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr neu siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd bob ail nos Fawrth y mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar nos Fawrth olaf pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru

Clybiau Drama:

Mae’r Fenter a Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig dau glwb drama i blant yr ardal, Clwb Joio Drama ar gyfer blynyddoedd 1-3 ar nos Fercher o 5-5.45pm ac i flynyddoedd 4-6 o 6-7pm. Mae’r clybiau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, Theatr y Lyric, Caerfyrddin. Cyfle i blant dysgu sgiliau, magu hyder a mwynhau. I gofrestru, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru. Diolch i Theatrau Sir Gâr am y croeso cynnes i’r theatr yn wythnosol.

Symud a sgìl:

Rydym yn gyffrous i gychwyn clwb newydd sbon wrth gamu mewn i 2022, sef symud a sgìl, dyma gyfle i blant rhwng 3-5 oed i ddatblygu sgiliau chwaraeon, cyfathrebu a chymysgu gyda phlant arall yn yr un grŵp oedran. Mae’r clwb yma yn cael ei gynnal yn Neuadd Llyfrgell Caerfyrddin pob nos Iau rhwng 4.15-5pm, i gofrestru, cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi:

Edrychwn ymlaen at ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng Ngorllewin Sir Gâr eleni eto.

-Sioe Siani Sionc yn Yr Atom, ar y 19eg o Chwefror am 10:30am a 1pm.

-Cornel Creu yn Yr Atom, ar y 26ain o Chwefror am 10:30am.

-Paned a Sgwrs yn Yr Atom ar y 26ain o Chwefror a 5ed o Fawrth rhwng 1-2pm, croeso i siaradwyr rhugl a newydd.

-Cwis Dydd Gŵyl Dewi ar Zoom ar y cyd gyda Mentrau Cwm Gwendraeth Elli, Dinefwr, Cered a Sir Benfro ar nos Fercher yr 2il o Fawrth. Croeso i siaradwyr rhugl a dysgwyr.

-Taith Gerdded Hanesyddol o Gaerfyrddin gydag Alun Lenny ar y 5ed o Fawrth, cwrdd yn Yr Atom am 2pm. Croeso i siaradwyr rhugl a newydd.

-Sioe Barti Ddu gan gwmni Mewn Cymeriad, yn Neuadd Bancyfelin ar y 5ed o Fawrth am 10:30am. Bydd y digwyddiad yma yn cael eu cynnig am ddim, diolch am y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr. #gaeafllawnlles

-Noson Coginio Cynnyrch Cymreig gyda Lloyd Henry ar Zoom ar y 9fed o Fawrth, cysylltwch gyda gwyneth@mgsg.cymru i dderbyn y linc.

Byddwn yn cefnogi gweithgareddau’r Atom yn ystod y dathliadau.

Gweithdy addurn pen ‘fascinator’:

Am y tro cyntaf erioed, bydd y Fenter yn cynnal gweithdy creu addurn pen ‘fascinator’ ar y 30ain o Ebrill am 10yb, yn y Gât, San Clêr. Cost y gweithdy bydd £25 y person. Niferoedd cyfyngedig. Cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru i gofrestru.

Sbri Sadwrn, Llanboidy:

Bydd y Fenter yn cydweithio gyda Neuadd y Farchnad, Llanboidy i gynnal sesiwn ‘Sbri Sadwrn’ am ddim. Dyma cyfle i blant a phobl ifanc ymuno â ni i chwarae gemau a datblygu sgiliau ar y 19eg o Fawrth rhwng 11-12pm yn Neuadd y Farchnad. Cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru i gofrestru.

Fforwm Ieuenctid:

Bydd y Fenter ac Urdd Myrddin yn cynnal Fforwm Ieuenctid ar yr 8fed a 22ain o Fawrth, cyfle i bobl ifanc yr ardal canolbwyntio ar weithgareddau yn ardal Caerfyrddin. Lleoliad ac amser i’w gadarnhau. Cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i dderbyn mwy o wybodaeth.

Wythnos ‘Gaeaf Llawn Lles’:

Mae’r Fenter yn edrych ymlaen at gyflwyno wythnos o weithgareddau yn Llawn Lles yn ystod hanner tymor Chwefror sydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer ystod eang o oedrannau. Mae’r wythnos yn cynnwys

Llun Llesol: 21.2.22 Gweithdai Adweitheg a Yoga yng Nghanolfan Fagu Caerfyrddin o 10am-2pm ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. I gofrestru: alma@mgsg.cymru

Mawrth Mwdlyd: 22.2.22 Diwrnod o hwyl yn cynnwys cwrs rhwystr fwdlyd, saethyddiaeth a gemau pêl yn Aspirations Outdoor Adventures, Maudland, o 10am-4pm ar gyfer blynyddoedd 3-6. I gofrestru: ceris@mgsg.cymru

Beicio Brechfa: 23.2.22 Diwrnod yn mwynhau llwybrau beicio Brechfa, Byrgwm, o 10am-4pm ar gyfer blynyddoedd 6-9. I gofrestru: alma@mgsg.cymru

Stiwdio Steff: 24.2.22 Gweithdy blas ar gerddoriaeth yn Yr Egin, Caerfyrddin, o 10am-12:30pm ar gyfer blynyddoedd 5-6. I gofrestru: ceris@mgsg.cymru

Gwener Gwlyb: 25.2.22 Diwrnod yn datblygu sgiliau ar y tir ac yn y dŵr yng Nghanolfan Paddlers Llandysul, o 10am-4pm ar gyfer oed uwchradd. I gofrestru: gwyneth@mgsg.cymru

Bydd y sesiynau yma i gyd yn cael eu cynnig am ddim, diolch am y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr. #gaeafllawnlles

Cystadleuaeth Dylunio Carden Santes Dwynwen 2022

Yn flynyddol mae’r Fenter yn cydweithio gyda Chyngor Tref Caerfyrddin i gynnal Cystadleuaeth Dylunio Carden Santes Dwynwen. Eleni roedd Menter Dinefwr a Menter Cwm Gwendraeth Elli yn rhan o’r gystadleuaeth hefyd. Diolch yn fawr i holl ysgolion Sir Gâr am gystadlu eleni eto, derbyniwyd dros 1260 o gardiau.

Llongyfarchiadau mawr i Dexter Elias o Ysgol Bro Banw am ennill y gystadleuaeth i’r Cyfnod Sylfaen ac i Maryam Adamson o Ysgol Bro Banw a Mylo Davies o Ysgol Talacharn am dderbyn clod uchel yn y categori.

Llongyfarchiadau mawr i Keira Hyde o Ysgol Rhys Prichard am ennill cystadleuaeth Cyfnod Allweddol 2 ac i Alaw Williams o Ysgol Cynwyl Elfed a Kiki Jolie Johnson o Ysgol Saron am dderbyn clod uchel yn y categori.

Llongyfarchiadau mawr i Alys Mitchell o Ysgol Bro Myrddin am ennill y categori Uwchradd ac i Elspeth Tymons o Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth a Gwion Hooper o Ysgol Maes y Gwendraeth am dderbyn clod uchel yn y categori.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Ganolfan Elfed am gystadlu eleni a derbyn clod uchel am eu ceisiadau. Diolch yn fawr i Faer Caerfyrddin, y Cynghorydd Gareth John am feirniadu’r gystadleuaeth hynod boblogaidd eleni eto.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris ar y ffôn: 07939 962042.