Ar hyn o bryd mae gan Gôr Meibion Cwmann a’r cylch aelodaeth o gwmpas 35 ac mae’r pwyllgor yn gobeithio cynyddu ar hynny.
Ydych chi erioed wedi meddwl am ymumo â Chôr Meibion?
Rydym yn chwilio am aelodau o bob oed. Os oes diddordeb, dewch i gael sgwrs.
Byddwn ni’n canu ychydig o ganeuon lle gallwch ymuno yn yr hwyl. Darperir lluniaeth ysgafn hefyd.
Mae’r côr yn ymarfer bob nos Fercher yn Festri Brondeifi rhwng 8 a 9.30 o’r gloch. Nid oes clyweliad a nid oes rhaid eich bod yn gallu canu fel Bryn Terfel!
Mae’r côr yn canu cymysgedd o ganeuon o’r traddodiadol i’r modern gyda chydbwysedd 50/50 rhwng caneuon Cymraeg a Saesneg.
Cofiwch, os ymunwch â Chôr Cwmann, rhoddir croeso cynnes i chi a bydd yr aelodau yn eich helpu mewn unrhyw ffordd posib.
Cynhelir y Noson Agored yn Festri Brondeifi, Llanbed ar nos Fercher 21ain Medi 7.30 tan 8.30 o’r gloch.
Os na allwch ddod i’r noson agored, croeso i chi gysylltu er mwyn trefnu noson arall. Does dim pwysau i ymuno, dim ond canu a mwynhau’r cwmni.
Gallwch gysylltu drwy facebook a chael mwy o wybodaeth ar wefan Côr Cwmann.