Noson Agored Côr Cwmann

Croesawu aelodau newydd

gan Dan ac Aerwen
91A31290-D9DF-49FE-BDC9

Ar hyn o bryd mae gan Gôr Meibion Cwmann a’r cylch aelodaeth o gwmpas 35 ac mae’r pwyllgor yn gobeithio cynyddu ar hynny.

Ydych chi erioed wedi meddwl am ymumo â Chôr Meibion?

Rydym yn chwilio am aelodau o bob oed.  Os oes diddordeb, dewch i gael sgwrs.

Byddwn ni’n canu ychydig o ganeuon lle gallwch ymuno yn yr hwyl.  Darperir lluniaeth ysgafn hefyd.

Mae’r côr yn ymarfer bob nos Fercher yn Festri Brondeifi rhwng 8 a 9.30 o’r gloch.  Nid oes clyweliad a nid oes rhaid eich bod yn gallu canu fel Bryn Terfel!

Mae’r côr yn canu cymysgedd o ganeuon o’r traddodiadol i’r modern gyda chydbwysedd 50/50 rhwng caneuon Cymraeg a Saesneg.

Cofiwch, os ymunwch â Chôr Cwmann, rhoddir croeso cynnes i chi a bydd yr aelodau yn eich helpu mewn unrhyw ffordd posib.

Cynhelir y Noson Agored yn Festri Brondeifi, Llanbed ar nos Fercher 21ain Medi 7.30 tan 8.30 o’r gloch.

Os na allwch ddod i’r noson agored, croeso i chi gysylltu er mwyn trefnu noson arall. Does dim pwysau i ymuno, dim ond canu a mwynhau’r cwmni.

Gallwch gysylltu drwy facebook a chael mwy o wybodaeth ar wefan Côr Cwmann.