On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Alun Evans, Dolydd, Llanybydder sy’n rhannu ei atgofion â ni.

gan Gwyneth Davies
Eisteddfod-Llanybydder

‘Ma’ nifer o atgofion melys am Lanybydder ‘da fi. Y syrcas yw un peth sy’n aros yn y cof ac fe gafodd yr un ddiwetha’ ei chynnal yng nghae’r ffair. Roedd yna un arall hefyd tua’r 50au/60au a’r adeg honno, roedd ceffylau gyda nhw a rheini’n cael eu reidio fel rhan o’r act. Yn y syrcas yna, dw i’n cofio gweld boi yn cario padell o ddŵr a sebon yn barod i shafo rhywun, a’r peth nesa welon ni oedd dyn heb freichiau yn ymuno ag e. Holodd hwnnw a alle fe shafo un o’r dynion yn y gynulleidfa. Tra bod y mwyafrif yn teimlo’n ansicr, fe ddywedodd Johnny Wenallt yn syth ei fod e’n ddigon parod i gamu ymlaen. Wel wel, cawson ni i gyd sioc achos roedd y boi yn dda ofnadw’. Wrth bwyso yn erbyn rhywbeth i’w helpu i falanso, fe shafodd e Johnny gyda bysedd un o’i draed. Agoriad llygad i ni i gyd!

Wel, on’d yw pethau wedi newid? Roedd treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal un adeg yn y caeau gyferbyn â Chapel Rhydybont a dw i’n credu mai tua’r 50au oedd hynny. Roedd pobl yn dod o ardal eang i gystadlu â’u cŵn gyda nifer yn dod o Lansawel a’r cylch. Yr Eisteddfod Lled-Genedlaethol (Semi-National) yw’r peth arall sy’n aros yn y cof a’r safle nepell o’r Ysgol Gynradd bresennol. Fe fuon ni’r bois ifanc yn ddrwg iawn bryd hynny. Ar ôl cael cwpwl o drinks, ro’n ni’n mo’yn mynd mewn i’r babell ond cael ein gwrthod wnaethon ni gan fod dim arian gyda ni i dalu. Fe drïon ni ein gorau glas ond cawsom ein stopio yn y drws. Ro’n ni’n felltigedig iawn a chan eu bod nhw’n pallu gad’el ni i mewn, fe dynnon ni un o’r cordenni a’r peth nesaf, fe ddisgynnodd rhan o’r babell. Wel, roedd hi off ‘na! Fe redon ni nerth ein tra’d lan i gyfeiriad Bryn Llo Fach ac er bod pobl wedi dechrau cwrso ar ein holau ni, chawson ni ddim ein dal. Dyna beth o’dd lot o ddwli.

Roedd Margaret a Bob Leishman yn gwerthu chips yn y pentre’ ac roedd y siop drws nesa i siop Margaret Central Stores.  O’r mowredd, roedd chips ffein iawn gyda nhw a lot o’r rhai ifanc yn enwedig yn galw ar ôl cael cwpwl o drinks. Ro’n nhw hefyd yn gwerthu crisps ac ro’n nhw ychydig yn llai na’r crisps arferol. Roedd Llanybydder yn llawn bwrlwm bryd hynny. Ro’dd y pictiwrs gyferbyn â fy nghartref i fan hyn yn Nolwerdd yn boblogaidd iawn. Roedd sied wedyn yr ochr dde i’r pictiwrs ac yno roedd busnes bach gan ddyn o’r enw Billton. Wel dyna beth ro’n i’n ei alw beth bynnag. Fe fydde fe’n prynu beics newydd ac yn trwsio hen rai yn ogystal. Dw i’n cofio’n iawn amdana i’n prynu beic newydd gydag e. Racer oedd e ac fe gostiodd e £16 i fi. Roedd e’n dipyn o arian am feic yr adeg honno.

Mae gen i nifer o atgofion melys am Tommy Barbwr hefyd. Ro’n i’n dod  i brynu cêc a blawd i’r lloi o’r co-op yn Llanybydder nawr ac yn y man a thra fy mod i yno, rhaid oedd galw ‘da’r Barbwr. Wel mae un ymweliad yn enwedig yn aros yn y cof. Roedd yna foi o ardal Tŷ Mawr yn dod i brynu blawd a chêc o’r co-op fel finne, a’r drefn fel arfer oedd gadael y gaseg yn stablau’r Vale of Teifi. Wrth edrych drwy’r drych pan o’ch chi’n eistedd yn sedd y barbwr, gallech weld beth oedd yn digwydd tu fas ffenest blaen y siop. Doedd dim byd yn wahanol yn Siop Tommy y diwrnod hwnnw a’r dyn dan sylw’n cael clonc a rhoi’r byd yn ei le. Ond, er ei fod e’n eistedd yno’n jacôs, roedd pethau ar fin newid.  Wrth edrych drwy’r drych, beth welodd e’n sydyn ond ei gaseg yn carlamu heibio’r ffenest. Roedd hi wedi dianc o stablau’r Vale a doedd dim amser i’w golli. Fe gododd o’r gadair fel mellten a rhedeg allan o’r siop, er nad oedd Tommy wedi gorffen torri ei wallt. Fe gwrsodd y gaseg lan i gyfeiriad y sgwâr top gan lwyddo i’w dal diolch i’r drefn. Ro’n ni i gyd tu fas yn gweld y performance hyn a phawb yn chwerthin yn ddi-stop. Nôl â’r gaseg wedyn i’r stablau a nôl ag e i sedd y barbwr i orffen torri ei wallt. Wel wel – lot o atgofion doniol!’

I glywed mwy am atgofion Alun Evans, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc sydd ar werth yn y siopau lleol ac ar gael fel tanysgrifiad ar y we.