Oergelloedd a rhewgelloedd y Co-op ar stop

Dim bwydydd ffres na bwydydd wedi’u rhewi mewn archfarchnad yn Llanbed heddiw.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
200B8231-2C21-4DC3-AF91

Does dim bwydydd ffres yn yr oergelloedd yn y Co-op yn Llanbed heddiw na bwydydd wedi’u rhewi.

Mewn nodyn wrth y fynedfa, cyhoeddir:

Oherwydd nam ar yr oergelloedd, ni fydd bwydydd ffres na stoc wedi’u rhewi ar gael.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfreustra.

Yn ôl bob son, taflwyd cynnwys pob oergell a rhewgell, a bydd rhaid disgwyl am gyflenwadau newydd ac ail lenwi’r silffoedd.

Mae hyn yn anghyfleus ofnadwy i nifer fawr o siopwyr yr ardal.  Y manteision arferol o siopa yn y Co-op yn Llanbed yw’r parcio am ddim ger yr archfarchnad yn ogystal â chyfle i ddefnyddio’r Swyddfa Bost a leolir yng nghefn yr archfarchnad.

Roedd hyn yn dipyn o sioc hefyd i’r rhai a ddychwelodd o’r Eisteddfod Genedlaethol yn gwneud eu siopa a dim bwyd yn y tŷ.

Beth yw’r rheswm dros hyn?  Digwyddodd yr un peth llynedd.  Nam technegol neu gamgymeriad gan aelod o staff tybed?