Lluniau gan Aneurin James.
Cynhaliwyd Ras Sarn Helen rhif 41 yn yr heulwen ar y 15fed o Fai, ras a gynhaliwyd yn flynyddol oddi ar 1979 oni bai am flwyddyn y clwyf traed a genau a dwy flynedd y Covid.
Braf oedd gweld 41 o redwyr yn cwblhau’r ras un filltir ar bymtheg a hanner eleni – tebyg iawn i’r nifer a’i rhedodd yn 2019 – gan gofio mai ras i’r cnewyllyn caletaf o redwyr yw hon.
Yn dringo dros 3000 o droedfeddi, mae’n cychwyn ger cyffordd Heol Tregaron ac yn hawlio tair ymdrech fawr gan y rhedwyr, y gyntaf o fferm Coedmor i fyny i Esgairgoch, yr ail i fyny Craig Twrch i ymuno â’r hen ffordd Rufeinig, a’r drydedd i fyny o bont Llanfair i Allt Cefnfoel cyn dychwelyd drwy’r caeau i orffen yng nghae rygbi’r dref.
Nid y cyntaf i gyrraedd oedd yr enillydd eleni gan i Mark Horsman o glwb Pontypridd gyfeiliorni wrth arwain y ras gan dorri rhyw ddwy filltir allan o’r siwrnai’n anfwriadol a chael ei ddifreinio.
Aeth y fuddugoliaeth felly i Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth mewn 1 awr 55 munud a 36 eiliad a’r ail safle i Rob Davies o glwb Dyffryn Aman (1:58:04.) Y fenyw gyntaf oedd Wendy Price (2:18:19) o glwb Dyffryn Aman.
Yr oedd 15 o redwyr Clwb Sarn Helen yn y ras ac yr oeddent yn ddiolchgar fod tipyn o awel yn lliniaru ychydig ar wres y dydd. Yn 4ydd i groesi’r llinell ac yn 3ydd o’r dynion dros 40 oedd Simon Hall (2:8:09) ac yn dynn ar ei sodlau ac yn ennill dosbarth y dynion dros 50 yr oedd Glyn Price (2:9:17) gan gadarnhau fod ei baratoadau at farathon llwybr Cymru yng Nghoed y Brenin yn mynd yn foddhaol.
Hefyd ymhlith y gwobrau daeth Meic Davies (2:16:23) yn 3ydd yn nosbarth y dynion dros 50 a George Eadon (2:18:44) yn ail ymhlith y dynion dan 40.
Er yn ail fenyw i orffen, Dee Jolly (2:29:51) oedd yn gyntaf yn nosbarth y menywod dan 35, ac unwaith eto profodd Delyth Crimes (2:54:59) ei bod yn anodd ei chadw allan o wobrau dosbarth y menywod dros 45 trwy ddod yn 3ydd ynddo.
Cafwyd ymdrech dda hefyd gan Irfon Thomas (2:20:44) a thra yr oedd Steffan Thomas (2:24:21) yn rhedeg y ras am y tro cyntaf, yr oedd Eric Rees (2:34:02) yn hen gyfarwydd â’r daith.
Llongyfarchiadau hefyd i Jamie Lambert (2:49:17), Mitchell Readwin (2:50:15), Nicola Williams (2:58:22), Rhys Burton (2:58:35), Pamela Carter (3:4:16) a Johanna Rosiak (3:23:48) ar ddygymod â’r her anodd hon. Wedi’r cyfan yr oedd 14 ohonom wedi cymryd yr opsiwn haws o redeg y cwrs naw milltir a hanner i redwyr “anghystadleuol” – y dyn a’r fenyw gyntaf i orffen hwn oedd Gareth Hodgson a Lou Summers, dau gystadleuol iawn yn ôl pob tystiolaeth!
Eleni fel arfer hefyd yr oedd ras filltir a hanner i’r dosbarth ieuenctid gyda Harri Rivers (11:54) a Sioned Kersey (12:59) yn fuddugol, a ras i’r dosbarth cynradd lle daeth Eva Davies (3:47) a Leighton Davies (3:57) i’r brig.