Erbyn prynhawn ma, newidiwyd yr arwyddion sydd bellach yn hysbysu gyrwyr i beidio stopio am 310 llath! Ymateb sydyn gan y cyngor sir chwarae teg.
Beth ydych chi’n meddwl o arwyddion newydd yn ein hysbysu am beidio parcio yn Stryd y Coleg Llanbed a osodwyd yno heddiw?
Nid yn unig bod camgymeriad treiglo yno, ond mae’n hysbysu gyrwyr na ellir parcio am 310 milltir yn hytrach na 310 medr!
Dywedodd Nerys Lloyd sydd â siop gemydd ar Sgwâr Harfod “Sdim parcio bob cam o fan hyn i Lerpwl! Ma rhywun wedi gwneud yr arwyddion hyn a’u codi nhw bore ma heb sylwi bod nhw’n anghywir!”
Y bwriad yw cadw Stryd y Coleg yn glir ar gyfer traffig a fydd yn teithio trwy’r dref i gyfeiriad Tregaron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.
Ond mae’n well i bobl ardaloedd Glan Denys, Betws Bledrws, Llangybi, Olmarch, Cox Head a Llanio heb son am Dregaron a thu hwnt bod yn wyliadwrus. Ni ellir stopio mewn gwirionedd tan cyrraedd Abington yn yr Alban!
Mae’r un peth yn wir am yr arwyddion ar ochr arall Stryd y Coleg ger Neuadd Burgess sy’n golygu na ellir stopio ar ochr y ffordd o Stryd y Coleg i gyfeiriad y de a’r dwyrain yng Nghwmann, Tafarn Jem, Harford, Pumsaint, Bridge End, Maes Twynog, Hafod Bridge, Llanwrda a thu hwnt. Yn wir, mae 310 milltir yn mynd â chi bron bob cam i Calais yn Ffrainc!
Ydy hyn yn gostau dianghenraid ac yn wastraff ar arian trethdalwyr? Ble mae’r safonau a ddisgwylir gan yr awdurdodau? Er y camgymeriad, mae’n nhw’n destun trafod ar strydoedd Llanbed bore ma ac wedi dod â gwên i wyneb sawl un.
Ond os ydych yn teithio trwy Lanbed i’r Eisteddfod yn Nhregaron yr wythnos nesaf, dilynwch yr arwyddion melyn a chofiwch stopio yn y meysydd parcio swyddogol.