Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyrion Tregaron o 30 Gorffennaf – 6 Awst eleni ac mae’r Eisteddfod wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion a’r gwasanaethau brys er mwyn creu cyfarwyddiadau teithio ar gyfer ymwelwyr sy’n cyrraedd o bob cyfeiriad.
Bwriad yr Eisteddfod yw osgoi tagfeydd ac effeithio cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol. Gosodir arwyddion melyn ar draws yr ardal i arwain ymwelwyr i Dregaron yn ddiogel gyda’r mwafrif o’r cerbydau yn dod drwy dref Llanbed.
Arweinir holl draffig o’r De, De Ddwyrain a’r De Orllewin tuag at dref Llanbed cyn troi ar gyffordd Gwesty’r Rheilffordd a dilyn yr A485 i gyfeiriad Tregaron.
– Danfonir traffig y De Orllewin o ardal Aberteifi am Synod Inn ac yna ymlaen i Aberaeron. Yn Aberaeron, dylid mynd heibio Sgwâr Alban, ac yna troi i’r dde wrth yr orsaf betrol ar yr A482 trwy Felinfach tuag at Lanbed. Bydd yr ildio ar y gyffordd hon yn Aberaeron yn cael ei wrthdroi trwy gydol cyfnod yr Eisteddfod.
– Daw traffig y De o Gaerfyrddin trwy Lanllwni i Lanybydder ar yr A485 drwy Gwmann i dref Llanbed.
– Bydd traffig y De Ddwyrain yn dod o Lanymddyfri a Llandeilo gan droi yn Llanwrda ar hyd yr A482 drwy Bumsaint a Chwmann eto ac i dref Llanbed.
Oherwydd y traffig eisteddfod ychwanegol yma yn Llanbed bydd gorchmynion clirffordd dros dro mewn lle ar Stryd y Coleg a bydd hyn yn weithredol o ddydd Mercher 27 Gorffennaf – dydd Llun 8 Awst.
Gosodir system un-ffordd yn Nhregaron i liniaru tagfeydd yn ystod yr ŵyl. Bydd traffig yn symud yn wrthglocwedd o Ffordd yr Orsaf ar yr A485 i Stryd y Capel ar y B4343 ac yna tua’r gogledd tuag at Ysgol Henry Richard, ac yn ôl tuag at yr A485.
Bydd y gorchmynion clirffordd dros dro mewn grym dros sawl ardal:
• Ar yr A485 tua’r de o’r bont dros Afon Brenig
• Ar y B4343 tua’r de o Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron
• Ar yr A485 tua’r gogledd o Siop Fferm Riverbank
• Ar y B4343 ar Ffordd Dewi ger Ysbyty Cymunedol Tregaron
• Ar Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan
Gall hyn effeithio ar fusnesau lleol mewn sawl ardal dros gyfnod o 13 diwrnod ond bydd yr eisteddfod yn rhannu gwybodaeth am fannau parcio amgen i drigolion lleol. Ar y llaw arall, y gobaith yw y gall busnesau Llanbed elwa o fod mor agos i Dregaron a denu’r holl deithwyr ychwangol i siopa yn y dref.