Nôl yn 1880, penderfynodd John Davies, Tancoed Cwrtnewydd os fyddai yn derbyn y swydd o fod yn wenidog Undodaidd Capel y Bryn, byddai angen capel yn fwy. Aeth ati i gasglu arian hyd a lled De Cymru. Dydd Nadolig, 1882, fe agorwyd y capel newydd.
Penwythnos 25/26 o Fehefin, bu’r capel yn dathlu ei benblwydd yn 140. Daeth llu o bobl i’r capel i edrych ar yr hanes ac ar y lluniau. Roedd yr hanes yn son am bethau yn y pentref ynghyd â’r capel.
Y pethau cafodd fwyaf o sylw oedd hanes y plismon lleol yn dal pobl meddw y pentref ac yn galw Cwrtnewydd yn “bentref mwyaf meddw y Dywysogaeth”.
Roedd yna hefyd hanes tua 12 o ffermydd yn cael eu gwerthu ar yr un dydd (stad Neuadd Fawr Llanwnnen) ynghyd â sawl tŷ yn y pentref yn cynnwys Capel y Bedyddwyr Seion (aeth am £35) nôl yn 1919.
Fel roedd i ddisgwyl, y lluniau oedd yn dennu y mwyaf o hwyl. Hyfryd roedd clywed pobl yn dweud “Fi’n cofio hwnna”. Llifodd yr atgofion am dripiau ysgol Sul, neu eisteddfodau a chystadlu yn yr Urdd. Roedd yna stori ddiddorol tu ôl i bob llun.
Ar y Dydd Sul, cawsom gwrdd o ddiolch. Braf oedd gweld y capel yn llawn.
Ar ôl y gwasaneth, roedd rhaid neud, fel ym mhob parti penblwydd, torri cacen hyfryd a chael cwpanaid o de. Anne Thomas (gynt o’r Felin) torrodd y gacen a hithe wedi bod yn ysgrifynyddes y capel am dros 60 o flynyddoedd.