gan
Lowri Thomas
Ddoe fe gyflwynodd y Brifysgol a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan siec o £1000 i Lampeter Food Bank / Banc Bwyd Llanbed yn dilyn Ffair Nadolig y Dref a’r Brifysgol a gynhaliwyd ar gampws Llambed yr wythnos ddiwethaf.
Diolch i bawb a gefnogodd yr achos.
Llun o’r chwith i dde: Zareen Cave a Julia Lim o Fanc Bwyd Llambed, Maer Tref Llambed Cyng. Helen Thomas, Dirprwy Faer, y Cyng. Rhys Bebb, Gwilym Dyfri Jones, Profost campysau Llambed a Chaerfyrddin, a Hazel Thomas, Cydlynydd Canolfan Tir Glas.