Cyrhaeddodd tri deg saith o fyfyrwyr Gymru ar ddiwedd mis Ionawr i astudio ystod o raglenni a nodwyd gan eu llywodraeth fel rhai sydd o fudd i ddatblygiad eu gwlad yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys Hanes, Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang, yn ogystal ag Addysg Plentyndod Cynnar, Mesur Meintiau a Pheirianneg Sifil.
Mae’r myfyrwyr wedi derbyn ysgoloriaethau gan y Brifysgol a llywodraeth SVG i astudio yng Nghymru, a chânt eu lleoli ar gampws Llambed y Brifysgol am y tair blynedd nesaf.
Lansiwyd y cynllun ysgoloriaethau gan yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Mr Ralph Gonsalves, Prif Weinidog SVG o ganlyniad i drafodaethau ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Noddwr Brenhinol y Brifysgol, yn dilyn ffrwydrad y llosgfynydd ar St Vincent ym mis Ebrill 2021.
Meddai Is-ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, DL: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu’r myfyrwyr o St Vincent a’r Grenadines i astudio yn y Brifysgol. Roedd y Brifysgol yn falch o weithio gyda Mr Ralph Gonsalves, Prif Weinidog St Vincent a’r Grenadines, i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio rhaglenni a fydd yn helpu gwella capasiti ac adeiladu seilwaith yr ynysoedd, yn dilyn ffrwydrad y llosgfynydd yn 2021”.
Ers cyrraedd Llanbedr Pont Steffan, mae’r myfyrwyr wedi cael croeso mawr gan eu cyd-fyfyrwyr ac aelodau staff, yn ogystal â phoblogaeth y dref hefyd. Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn rhaglen Songs of Praise arbennig gan y BBC a ddarlledwyd ar 27 Chwefror i ddathlu daucanmlwyddiant y Brifysgol.
Daeth Violet Peters, myfyrwraig Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang, sy’n 29 mlwydd oed, i Lambed er mwyn iddi allu gwella ei bywyd. Fe’i magwyd hi mewn tref o’r enw Calliaqua, lle treuliodd hi amser yn addysgu plant, mynd i’r traeth, darllen, a bwyta pysgod. Gartref bu’n ymwneud â’r CADETS, lle enillodd hi’r rheng arweiniol Swyddog Gwarant, Clwb Ieuenctid yr Heddlu, Cymdeithas Celfyddydau Perfformio yn ystod Coleg. Er i Violet dyfu i fyny’n dlawd, mae hi bob amser yn ymdrechu i wneud yn well. Hi yw’r unig aelod o’i theulu sydd wedi cael y cyfle i fynd i brifysgol.
Meddai hi: “Fy argraff gyntaf o’r Brifysgol oedd ei bod hi’n amgylchedd croesawgar, cynnes lle y gallwn i ddysgu. Mae llawer o leoedd yno lle y gallwch chi fynd i astudio, ac mae ganddi fannau tawel lle y gallwch chi ddysgu.
“Fy ngobaith yw y gallaf ddatblygu fy astudiaethau ymhellach a gwneud bywoliaeth i fi fy hun drwy ddefnyddio’r radd y byddaf wedi’i hennill. Rwyf hefyd yn gobeithio adeiladu fy ngyrfa a gwella fy sefyllfa mewn bywyd oherwydd bod fy mam wedi cael trychiad, ac mae angen aelod prosthetig arni. Pan feddyliaf na allaf fforddio’r aelod prosthetig hwnnw ar ei chyfer hi, mae hyn yn fy ysgogi i ennill fy ngradd, fel y gallaf wella fy sefyllfa mewn bywyd gyda’r potensial o gael swydd well a fyddai’n fy ngalluogi nid yn unig i gael yr aelod prosthetig hwnnw iddi, ond hefyd i gynnal fy hun yn ogystal. Fi oedd yr unig aelod o’n cartref ni o saith, gan gynnwys dau blentyn adferol, a oedd yn gweithio llawn amser, ac felly, roedd gorfod symud i’r DU yn benderfyniad anodd… Rwyf wedi cychwyn ar y daith hon, ac rwy’n gweddïo y bydd hi’n mynd â mi i leoedd gwych. Rwy’n gobeithio dod, ryw ddydd, yn Llywodraethwr Cyffredinol neu hyd yn oed yn Brif Weinidog fy ngwlad.”
Roedd Shalom Joseph wedi gweithio’n flaenorol fel ffotograffydd llawrydd ac wedi astudio Seiberddiogelwch yn ei goleg cymunedol yn St Vincent. Cynigiwyd ysgoloriaeth iddo i astudio Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac oherwydd effeithiau dinistriol y llosgfynydd ar adeiladu nôl adref, gwelodd hwn yn gyfle perffaith iddo fanteisio ar ei ddiddordeb mewn dylunio. Mae Shalom yn meddwl, hyd yn hyn, bod y: “Brifysgol yn anhygoel, ac mae’r darlithwyr mor barod i helpu, a rhoi adborth craff, ac maent yn groesawgar iawn hefyd. Maen nhw’n parhau i’ch cymell i weithio’n galed ac i ddilyn eich breuddwydion.”
Roedd y gerddores Ancar Gordon, sy’n 20 mlwydd oed, wedi teithio ar draws St Vincent yn perfformio mewn digwyddiadau amrywiol cyn iddi benderfynu dod i astudio Saesneg a Hanes yn Llambed. Dywedodd: “Yr hyn rwy’n ei hoffi am y Brifysgol yw bod popeth ar gael ar eich cyfer, boed hynny ar-lein neu ar y campws.”
Cyn symud i Lambed, cyflogwyd Javorne Campbell, sy’n 36 oed, gan lywodraeth St Vincent a’r Grenadines fel Swyddog Carchar am bron i 5 mlynedd. Roedd ei bywyd gartref yn brysur gan ei bod hi hefyd yn magu ei mab wyth mlwydd oed. Gwelodd hi’r cyfle i astudio Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang yn Llambed fel ffordd o ddatblygu ei hastudiaethau a’i helpu ei hun i symud ymlaen mewn bywyd.
Mae’r holl fyfyrwyr yn edrych ymlaen at ddychwelyd i St Vincent a’r Grenadines ymhen tair blynedd gyda’r set o sgiliau gwerthfawr y maen nhw wedi’u hennill, ac wedi cael eu dysgu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Meddai Javorne hefyd: “Drwy fynd â’m set o sgiliau yn ôl gyda mi i St Vincent, rwy’n gobeithio y gallaf gynorthwyo rhoi rhaglenni ar waith sy’n helpu mynd i’r afael â gwleidyddiaeth y wlad, a datblygu’r wlad yn ei chyfanrwydd. Rwy’n gobeithio hefyd gwneud rhai cysylltiadau rhwydwaith defnyddiol yma i fynd yn ôl gyda mi i St Vincent, fel pan fyddaf yn ôl yn fy nghartref, ac mae angen cymorth o ryw fath arnaf, gallaf ofyn i bobl yr wyf wedi rhwydweithio â nhw yma, a chael y math cymorth.”
Ychwanegodd Shalom: “Rwy’n gobeithio elwa oherwydd y profiad rhyngwladol – drwy weithio ochr yn ochr â phobl nad ydynt yn dod o’r un man â minnau; a chredaf y gwnaiff hyn fy ngalluogi i ddatblygu fy meddylfryd, er mwyn creu meddwl llawer mwy agored, a’m galluogi i fynd â hynny adref, ac ailadeiladu rhai o’r pethau hynny sydd angen eu hailadeiladu, yn ogystal â gwella cyfanrwydd strwythurol rhai adeiladau.”