Profiad arbennig i Dîm Rygbi Ieuenctid Llanbed yn Stadiwm Principality

Boddi wrth ymyl y lan mewn gêm dda yn rownd derfynol y Bowl Ieuenctid

gan Heulwen Jones
25C2F7DC-43B0-4347-AF66

Llun gan Gary Jones.

Adroddiad gan Pete Ebbsworth.


Cychwynnodd y Tîm Ieuenctid yn gynnar fore Sadwrn 23ain Ebrill ar gyfer eu taith i Gaerdydd i gêm derfynol y Bowl Ieuenctid yn Stadiwm y Principality.

Roedd Llandaf yn wrthwynebwyr cryf a’r chwarter awr agoriadol yn gyfle i’r nerfau setlo o’r ddwy ochr. Wedi dod yn fwy cysyrus â’r stadiwm fawr daeth hyder i dîm Llambed gyda chic yn groes i’r cae at ddwylo gofalus Jaydn Hinds yr asgellwr, a hwnnw’n croesi yn y gornel am gais gyntaf y gêm.

Dangosodd Llambed eu cryfder yn y sgrym ac wrth yrru ymlaen er mwyn ennill tir. Arweiniodd hyn at lwyddiant gyda Sion O’Keefe yn carlamu i’r llinell am ail gais y gêm a dyblu’r sgôr i 10-0.  Cyn diwedd yr hanner cyntaf, cafodd Llandaf eu sgôr gyntaf ac yn trosi i wneud y sgôr yn 10-7.

Ar gychwyn yr ail hanner dangosodd tîm Llambed sgiliau pasio medrus a llwyddodd Guto Ebbsworth i wau ei ffordd drwy amddiffyn Landaf a chroesi o dan y pyst, a Gruffydd Morgan yn trosi’n abl gan wneud y sgôr yn 17-7 i Lambed.

Closiodd y gêm gyda Llandaf yn sgorio a throsi gan ddod â’r sgôr i 17-14. Unwaith eto, llwyddodd Llambed i adeiladu ymosodiad cryf arall gyda Meirion Lloyd yn croesi’r llinell a Gruffydd Morgan unwaith eto’n trosi gan wneud y sgor yn 24 – 14.

Daeth Llandaf nôl gyda chais i wneud yn sgôr yn 24-19, ac ym munudau olaf y gêm dyma Llandaf yn croesi’r llinell gais unwaith eto a llwyddo i drosi gan wneud y sgôr derfynol yn 24-26.

Profiad arbennig i’r tîm a roddodd gant y cant gydol y gêm o dan arweinyddiaeth gadarn y Capten, Steffan Holmes. Diolch i bawb sydd wedi hyfforddi a chefnogi’r bechgyn yn Llambed ac yn Aberaeron – dylai’r ddau glwb fod yn falch iawn o’r bechgyn ifanc hyn.