Mae Rali Cffi Ceredigion yn Llanwenog ar fferm Fronheulog eleni.
Mae aelodau, arweinyddion a ffrindiau’r clwb yn brysur yn paratoi ac yn edrych ymlaen yn ofnadwy i gael croesawu pawb yma i’n plith.
Cadwch lygad ar ein blog yma i weld y datblygiadau…
Fordydd yn eu lle!
Geraint yn fflatno, Carys yn pressure washo a ma’r toilets wedi cyrraedd!
Dewch yn llu!
Nos Iau prysur yn Fronheulog!
Yr olygfa hyfryd o’r maes.
Cegin Cwm Gwaun bydd yn ein bwydo ni gyd ddydd Sadwrn.
Spin ar y beic!! Ond hmmm pam?!?
Mwy o lunie ac un fideo o’r barnu neithiwr.
Cafwyd sgwrs neithiwr gyda Geraint Lloyd am y ddiwrnod mawr Dydd Sadwrn!?
Os hoffech wrando nôl ar y sgwrs yna dyma’r linc! Dechreuwch wrando o 42:00?
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m0017rz4
Pwy yw pwy?
Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.