Record Newydd Ym Mart Llanybydder

Adroddiad arwerthiant 28ain o Fai.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Torrwyd record ym mart Llanybydder ddoe wrth i darw 19 mis oed Limousin o eiddo Gethin Mathias werthu am £8,400.

Fe werthodd 85% o’r teirw gyda nifer eraill yn gwneud prisiau da.

Y pris uchaf am fuwch a llo oedd £2,050 o eiddo Williams, Cwmhwplin gyda nifer eraill yn cyrraedd prisiau hyd at £2,000.

£1,300 oedd y pris gorau am fuwch mewn llo o eiddo Evans, Penbryn.

Roedd trêd da ar yr aneirod magu hefyd a’r pris gorau oedd £1,500 o eiddo Evans, Penbryn.

Yr 11eg o Fehefin fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.