Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Er taw edrych mlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yr wythnos nesa’ y mae pawb y dyddiau hyn, mae’n amser hefyd i chi gystadleuwyr ddechre paratoi ar gyfer gŵyl flynyddol Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan.
Cynhelir yr Eisteddfod ar gampws y Brifysgol yn Llambed ar benwythnos Gŵyl Banc Awst (27-29 Awst 2022). Dyma gopi o’r rhaglen, rhag ofn y daw’r awen heibio neu y cewch eich ysbrydoli i gystadlu. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n gynnes i’n heisteddfod.