“Rhaid i Gymru ennill yn Qatar”

Neges ysgolion cynradd Ceredigion i dîm Cymru yn Qatar!

gan Ifan Meredith

Pnawn Llun, cyn i Gymru chwarae eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd, lansiwyd fideo ‘Cymru am Byth’ sydd ar gael ei wylio bellach ar YouTube.

Mae’r fideo wedi ei greu yn dilyn gwaith caled disgyblion ysgolion Ceredigion, gan gynnwys Ysgol Bro Pedr. Bu’r disgyblion wnaeth ysgrifennu’r gyfres o gwpledi mewn gweithdy arbennig yng nghwmni’r Prifardd, Ceri Wyn. Yna, recordiwyd y rhannau gwahanol ar ffurf rap yn yr ysgolion er mwyn cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun, yr 21ain o Dachwedd.

Mae’r cyffro a deimlwyd nos Lun adeg cic Bale o’r smotyn i’w deimlo yn y fideo unigryw yma:

“Mae disgyblion Ysgol Bro Pedr wedi mwynhau’n fawr wrth gydweithio i greu a pherfformio cwpledi gydag ysgolion Ceredigion er mwyn ysbrydoli tîm Cymru yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd. Mae’r prosiect wedi llwyddo i gyffroi a magu balchder ymhlith ein disgyblion yn ogystal ag uwcholeuo pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’n Cymreictod.” – Mrs Llinos Jones, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Pedr