Lluniau gan Sara Jarman
Ar brynhawn oer o Ionawr, croesawodd Merched Rygbi Llambed dîm Treforys am gêm gynghrair ar ddydd Sul y 23ain. Ar ôl ennill yn gyfforddus lawr ‘na, roedd Llambed yn awyddus i wneud yr un peth adre.
Ni fu rhaid aros yn hir am y cais cyntaf, gyda Ashley James, rhif 15, yn torri drwy’r amddiffyn yn bert a sgorio dan y pyst. Ychwanegodd Sioned Jones ddau bwynt gyda’r trosiad. Mewn ychydig o funudau, croesodd Ashley eto, i wneud y sgôr yn 12-0.
Nesaf, tro Cerian Jones oedd hi i groesi’r gwyngalch, gyda’r sgôr yn 17-0. Roedd Treforus yn brwydro’n galed ond roedd Llambed yn gystadleuol iawn ym mhob agwedd o’r gêm. Tro Rhian, yr Wythwr oedd hi i sgorio nesaf gyda rhediad hir i lawr yr asgell ac yn ochr gamu’n slic i dwyllo’r amddiffyn. Ychwanegodd Sioned y ddau bwynt. Y blaenasgellwraig tanllyd, Elin Gapper, sgoriodd nesaf, a Sioned yn trosi i wneud y sgôr yn 31-0 ar yr egwyl.
Yr un oedd y stori yn yr ail hanner, gyda Sioned Jones yn croesi am ei chais cyntaf, ac yna yn llwyddo gyda’r gic i wneud y sgôr yn 38-0. Chloe Evans, rhif naw, oedd y nesa i gael ei henw ar y scroresheet ar ôl bod yn weithgar iawn drwy gydol y gêm. Y Capten, Branwen Lewis oedd nesa i sgorio, i wneud hi yn 48-0.
Gyda thîm Treforus yn blino ar ôl adegau hir o daclo ac amddiffyn, manteisiodd Rhian Thomas ar hyn, gan sgorio dau gais mewn ychydig o funudau i gwblhau ei ‘hatrick’. Tro Ashley oedd hi wedyn, ac fe orffennodd hi y gêm gyda thri chais hefyd.
Gyda’r sgôr erbyn hyn yn 65-0, daeth Sian Davies i’r cae. Bu Sian gyda Cgarfan Cymru yn ymarfer dros y penwythnos ond roedd yn ysu i ymuno yn y gêm, ac yn wir, o fewn ychydig o funudau fe groesodd hi am gais arbennig, gyda Sioned yn llwyddo gyda’r trosiad. Erbyn hyn, roedd y sgôr yn 74-0 ond chware teg i Dreforys, nhw gafodd y cais nesaf a’r olaf o’r gêm i wneud y sgôr terfynol yn 74-5.
Mae’r perfformiad hyn yn cadw Llambed yn gyfforddus ar frig y tabl, gyda dwy gêm ar ôl yn erbyn y West Swansea Hawks.