Sioe CFfI Llanllwni

Adroddiad a chanlyniadau’r sioe lwyddiannus a gynhaliwyd ar gaeau Abercwm ar ddiwedd Awst.

gan Betsan Jones

Prif enillwyr y dydd

Braf oedd cael croesawu pawb yn ôl I Sioe CFfI Llanllwni ar y 29ain o Awst ar gaeau Abercwm, Llanllwni drwy garedigrwydd Mr a Mrs Davies a’r Teulu.

Roedd yn ddiwrnod braf a daeth tyrfa dda ynghyd i fwynhau yn yr heulwen. Pleser oedd gweld y babell yn llawn cynnyrch, ac ar y maes cafwyd arddangosfa dda o hen beiriannau, sioe gŵn a sioe ddefaid.

Llywyddion y dydd oedd Mr a Mrs David Ablett, Ger y Nant, Llanllwni, a diolch iddynt am eu rhodd hael.

Dyma Brif ganlyniadau’r dydd:-

Defaid Iseldir- Teulu Blaenblodau

Defaid Mynydd- Teulu Blaenblodau

Pencampwyr yr adran ddefaid- Teulu Blaenblodau

Gwartheg Biff- Teulu Abercwm a Theulu Glwydwern

Gwartheg Godro- Teulu Gwndwn, Teulu Gwarallt a Theulu Gwarcwm

Pencampwyr yr adran wartheg- Teulu Gwndwn

Sioe Gŵn- Natasha Jones

Vintage Display- Teulu Dunn

Llysiau- Eric Jones, Pencader

Blodau- Janet Jones, Pencader

Cynnyrch fferm- Allan ac Ann Bellamy

Coginio- Menna Jones, Maesycrugiau

Crefft- Edwina Davies, Pencader

Ffotograffiaeth- Siriol Howells

Plant blwyddyn 2 ac iau- Alis Powell

Plant blwyddyn 3 a 6- Megan Jones

Plant blwyddyn 7-18 oed- Elan Evans

I ddiweddi’r diwrnod llwyddiannus cynhaliwyd rasus ceffylau, rhostio mochyn ac ocsiwn o dan ofal Mr Llyr Jones, Blaencwmerwydd, Horeb, Llandysul, a chodwyd swm sylweddol o arian.

Eleni, rhennir elw’r dydd rhwng elusennau Tir Dewi ac Ysbyty Plant Arch Noa. Carem fel clwb ddiolch o galon i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y dydd a diolch i aelodau a ffrindiau’r clwb fu wrthi’n brysur yn paratoi a stiwardio gan wneud yr achlysur yn llwyddiant mawr.