Taith Interrailo C.Ff.I. Cymru

13 diwrnod, 9 aelod, 7 gwlad, llu o atgofion!

gan SionedDavies

Dyna oedd yn ein hwynebu ni ar ein taith interrailo gyda mudiad y ffermwyr ifanc yr Haf yma. Roeddwn fod wedi mynychu’r daith nôl Haf 2020 ond o ganlyniad i Covid cafodd ei ohirio. Ond roedd y daith gwerth yr aros.

Cyn gallu trefnu’r daith roedd yn rhaid i ni gyd ymgeisio am y daith wrth lenwi ffurflen gais a mynd trwy broses o gyfweliad. Yna ar ôl i ni fel criw cael ein dewis roedd yn amser trefnu. Wrth drefnu’r daith gyda chyd-aelodau ar draws Cymru gyfan y ffordd rwyddaf i’w wneud oedd dros Zoom. O drefnu’r dyddiadau, i ba ddinasoedd, pa drên i ddal, ble i aros, roeddwn yn ddiolch o’r dechnoleg heddiw.

Ar ddydd Llun yr 8fed o Awst cyrhaeddon ni maes awyr Manceinion. Roeddwn i’n adnabod Lauren sydd o glwb Llanwenog gyda mi a Sara sydd o glwb Caerwedros, ond doeddwn i erioed wedi cwrdd â’r 6 aelod arall a oeddwn i am dreulio pythefnos gyda tan i ni gyrraedd y maes awyr. Gwnaeth dwy o’r criw hedfan o Gaerdydd. Felly bant a ni a’r lleoliad cyntaf oedd Amsterdam.

Dyma oedd dechrau ein taith a’r cwestiynau oedd yn cylchdroi ym maes awyr Amsterdam oedd sut ydyn ni’n cyrraedd yr hostel? Cerdded? Taxi? Trên? Bws? Tram? Gyda’r popeth yn y bag mawr ar ein cefnau doedd cerdded ddim rili yn opsiwn! Trên amdani ac roedd yr orsaf reit tu fas ein hostel. Yn go gloi fe ddysgon ni fod gan y dinasoedd tocynnau a oedd yn para 24awr neu 48awr a oeddech chi’n gallu teithio ar unrhyw fath o drafnidiaeth faint bynnag o weithiau oeddech chi eisiau yn yr amser hynny. Felly prynwyd y tocyn ac yn wir roedd yn handi dros ben. A dyna oedd yr hanes ar gyfer pob dinas yn y pendraw. Roeddwn yn chwilio am eu gorsaf docynnau ac yn cael y dêl gorau ar gyfer defnyddio eu trafnidiaeth.

Tra’n Amsterdam aethon ni ar y Canal Cruise o amgylch y ddinas gan weld adeiladau arbennig y ddinas, ymweld â’r Ice Bar a oedd yn brofiad oer iawn, ymweld ag amgueddfa Van Gogh, mynd ar y beics o amgylch y ddinas a mynd ar yr Amsterdam lookout swing a oedd yn rhoi golygfeydd o’r awyr i ni o’r ddinas.

Ar ôl treulio dau ddiwrnod braf yn y ddinas roedd yn amser dal trên nos o Amsterdam am 8:30 ac yna yn cyrraedd Berlin am 5:30 y bore. Roedd y trên yma yn brofiad gwael gan nad oeddwn wedi gallu cysgu arno felly wrth gyrraedd Berlin roeddwn wedi blino’n lân cyn dechrau.

Roedd pob gorsaf drên yn anferth yn enwedig yr un yn Berlin. Roedd Berlin yn ddinas hanesyddol iawn gydag amryw o adeiladau hen a gwreiddiol i’w weld. Aethon lan y Berlin TV Tower a oedd yn rhoi golygfeydd 360 o’r awyr i ni o’r ddinas. Ar yr ail ddiwrnod fe wnaethon ni ddal bws ‘Hop on hop off’ a oedd yn ein galluogi i ymweld â llefydd ac adeiladau enwog Berlin megis Brandenburg gate, War memorial wall, East side Gallery ac Reichstag i enwi rhai.

Ar ôl dau ddiwrnod prysur roedd yn amser dal trên bore o Berlin i Prague. Dyma ddinas hollol brydferth unwaith yn rhagor. Yn Prague roedd yn rhaid i ni gwneud yn siŵr ein bod ni’n defnyddio Czech Koruna yn lle Euros. Hefyd roedd llawer o’r llefydd yn Prague ond yn derbyn arian parod yn hytrach na charden. Yn gyntaf fe wnaethon ni fynd ar y paddle boats ar hyd yr afon. Yna fe wnaethon ni ymweld â Petrin tower a oedd yn rhoi golygfeydd godidog y ddinas i ni. Yn ystod ein hamser yn Prague fe wnaethon ni ymweld â wal John Lennon, y dancing house, Castell Prague, St Vitus Cathedral a phont enwog Charles.

O Prague fe deithion ni ar drên i Vienna gan dreulio ond diwrnod yno. Yn Vienna fe wnaethon ni gwrdd ffrind un o’r merched a oedd yn byw yno ac fe gawson ni ‘tour guide’ am y dydd. Yn ystod ein hamser  yn Vienna fe wnaethon ni ymweld â pharc antur. Yn y parc fe aethon ni ar yr olwyn fawr gan eto weld golygfeydd godidog y ddinas. O’r parc fe wnaethon ni deithio i ganol y ddinas gan weld y gadeirlan a’r gerddi Belvedere a oedd yn anhygoel. Ar ôl diwrnod yn Vienna roedd yn amser dal trên eto a theithio i Budapest.

Roedd Budapest yn defnyddio’r Hungarian Forints fel ei harian lleol. Dyma ddinas hyfryd a oedd yn dal ein llygaid yn syth gyda’r adeiladau a’r strydoedd deniadol. Yma fe wnaethon ni ymweld â’r Fisherman’s Bastion, Heroes Square, Shoes ar y Danube Bank. Doeddwn ni ddim yn gallu ymweld â Budapest heb fynd i’r Budapest Thermal Spa a oedd yn gyfle i ni ymlacio ar ôl yr holl gerdded a chrwydro.

Roedd hi’n amser dal trên unwaith yn rhagor ac i Ljubljana y tro yma. Cyn mynd roeddwn ni gyd wedi clywed llawer o bethau da am Ljubljana ac yn wir am ddinas hyfryd. Ymwelwyd â’r castell, yr Old Town Square, House of Illusion, Dragon’s Bridge, Butcher’s Bridge a’r farchnad fwyd. Fe aethon ni ar fws am ddiwrnod i Lake Bled a oedd tua awr o Ljubljana ei hunan. Roedd llawer wedi dweud wrthym ni i ymweld â Lake Bled ac yn wir roedd e wir yn anhygoel. O gerdded i fyny’r castell i gerdded fyny’r mynydd i weld y golygfeydd i’r watersports roedd e’n ddiwrnod anhygoel ac yn lle tawel iawn.

Ar ôl tridiau yn Ljubljana roedd yn amser i ddal ein trên olaf i Zagreb. Croatian Kuna oedd yr arian i ddefnyddio yn Zagreb. Roeddwn ond yn Zagreb am ddiwrnod felly roedd yn ddiwrnod o ymweld â gwahanol adeiladau. Yn gyntaf fe aethon ni fyny mynydd Sljeme ar gart sgïo i weld y golygfeydd. Yn anffodus roedd y cymylau yn eithaf isel y diwrnod hwn ond roedd yn hyfryd gweld rhai golygfeydd o’r ddinas ar y ffordd fyny. Yna crwydrwyd y ddinas i weld St Mark’s Church, Gric Tunnel, Theatr Genedlaethol i enwi ychydig,

Hedfanodd y pythefnos heibio ac roedd hi’n amser i ni gyd hedfan yn ôl i Fanceinion fel ein taith olaf fel criw.

Yr hyn rwyf wedi ei ddysgu o’r daith yw bod yna lawer i weld yn y byd yr ydym yn byw ynddo ac mae yna drafnidiaeth gyfleus iawn yn ninasoedd amrywiol y byd. Byddwn i wir yn argymell i unrhyw un os ydych yn awyddus i ymweld â gwahanol wledydd y byd i fynd amdani achos gewch chi ddim eich siomi.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Rhianwen sy’n gweithio i’r mudiad am ein cynorthwyo gyda’r trefniadau ac i C.Ff.I. Cymru am y cyfle arbennig yma i deithio o amgylch dinasoedd Ewrop gyda 8 aelod sydd nawr yn ffrindiau oes.