Trefniadau gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Ceredigion yn heriol

Pryder gwasanaeth bws sy’n teithio trwy Lambed. 

gan Siwan Richards
D37E09F8-83AA-4867-AC72

Bws taith y 585 yn ngorsaf fysiau Llambed

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddarparu cyfleoedd teithio cynaliadwy a fforddiadwy ar fws.

Mae proses gaffael ar y gweill ar hyn o bryd i sicrhau gofynion statudol o ran cludiant i ddysgwyr yn ogystal â chyfleoedd i’r cyhoedd deithio ar fws ar nifer o lwybrau yng Ngheredigion.

Gyda’r trefniadau presennol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022, mae tendrau a dderbyniwyd ar gyfer llwybrau bysiau lleol yn cael eu gwerthuso. Mae ffocws arbennig ar eu fforddiadwyedd gan ystyried y cynnydd sylweddol mewn prisiau tendro.

Yn anffodus, ni dderbyniwyd tendr ar gyfer gweithredu gwasanaeth 585, Aberystwyth-Tregaron-Llanbedr Pont Steffan. Oni bai y gellir negodi contract munud olaf, ni fydd y teithiau nad ydynt yn deithiau ysgol ar y llwybr hwn yn gweithredu o fis Ionawr 2023.

Bws 585 yn cyrraedd Llanbed.

Bydd cyfleoedd i’r cyhoedd deithio ar rai gwasanaethau teithio i ddysgwyr yn parhau o fis Ionawr 2023 ymlaen. Mae hyn oherwydd natur integredig y rhwydwaith bysiau yng Ngheredigion.

Meddai’r Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Trafnidiaeth: “Mae’n gyfnod anodd iawn i’r diwydiant bysiau gyda chostau cynyddol, diffyg gyrwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus cymwys, ansicrwydd ynghylch trefniadau ariannu yn y dyfodol a niferoedd y teithwyr yn isel. Mae nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers nifer o flynyddoedd. Mae hyn wedi gwaethygu gan pandemig COVID-19 sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y swm o arian cyhoeddus sydd ei angen i roi cymhorthdal ​​i wasanaethau bysiau lleol ar gyllidebau cyllid cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.

Bydd y Cyngor yn parhau yn ei ymdrechion i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys gweithredwyr bysiau lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i ddarparu cyfleoedd teithio cynaliadwy a fforddiadwy ar fysiau. Fodd bynnag, yn y tymor byr o leiaf, mae’n rhaid cydnabod bod y rhagolygon yn heriol iawn.”

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law tra bod swyddogion yn canolbwyntio eu sylw ar ddarparu’r lefel orau bosibl o gyfleoedd teithio.