Iestyn Owens y Plymer o Lanbed sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn y Cyfrinachau’ yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.
Ei lysenw yw Trigger Bach a disgrifia ei hunan yn sarcastic a doniol ond o ran cymeriad enwog, mae’n debyg i Jim Carrey o’r ffilm Dumb and Dumber!
Tasai Iestyn yn anifail, dywed mai mwnci y byddai ef oherwydd ei fod yn cheeky a phetai’n cael newid unrhyw beth am ei hunan, dywedodd “Dim byd, rwy’n berffaith.”
Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Torri scales yn ysgol, a Nathan Plant yn snitcho fi mewn!
Y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun i ti erioed?
Prynu pizza buy one get one free yn Dominos.
Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Roedd y dafarn ar gau pan oeddwn wedi troi yn 18.
Pa fath o ddeddf hoffet ti weld y Senedd yn ei phasio?
Gweithio 4 dydd yr wythnos.
Beth sy’n rhoi ysbrydoliaeth i ti?
Gwylio Lampeter 1st yn maeddu pawb.
Pwy oedd y dylanwad mwyaf arnat ti?
Mamgu a dadcu Llwynderw a next door.
Os am ddarllen rhagor o’i ymatebion diddorol, mynnwch gopi cyfredol o Bapur Bro Clonc yn y siopau lleol, neu drwy danysgrifio’n ddigidol ar y we.