Trigolion Llanbed yn ‘Gwledda’ yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion!

Sesiwn llawn hwyl gyda Lisa Angharad, Hywel Griffiths, Carys Hedd a Ceri Phillips ar y Maes 

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
4C4685B0-7D23-4C95-9221
F56FFD86-532D-4265-AF23
5022DD05-8B9F-45B6-9450
0FF290D5-6C0E-4E37-A24B
8CA8DD6E-ED43-4961-B869
A95AE59B-F3AC-4B13-9E05
847F0C62-CF44-4B13-8889
5BC9F211-273D-46E2-899C
A667D1A6-EC75-472D-A64F
DD622944-E3D8-4C7A-86E8

Daeth y byd a’r betws o bob rhan o Geredigion i fwynhau dadorchuddio blanced bicnic enfawr prynhawn Mercher 6ed Awst ym Mhentref Ceredigion, safle Cyngor Sir Ceredigion ar Faes y Brifwyl. Gwelwyd y gwaith crefft orffenedig cafodd ei greu gan gymunedau ar draws Ceredigion. Dyma ffrwyth llafur y Sesiynau Decstiliau tan arweiniad yr artist Carys Hedd a gynhaliwyd yn Llanbedr Pont Steffan ac mewn ardaloedd eraill gan gynnwys Aberporth, Aberystwyth a Llandysul.

Diddanwyd y gynulleidfa hefyd gan y chwedleuwr Ceri Phillips, y bardd Hywel Griffiths a’r cerddor Lisa Angharad. Adroddwyd storïau difyr gan Ceri a swynwyd y gynulleidfa gan ganu hyfryd Lisa gyfansoddodd gân yn seiliedig ar eiriau grymus Hywel. Darparwyd gwledd o ddanteithion blasus tan ofal medrus Hazel Thomas. Dyma ddiwedd y prosiect ‘Gwledda’ gynhaliwyd ar draws Ceredigion gan Lowri Davies mewn cydweithrediad gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion. Cewch flas o’r sesiynau wrth wylio’r ffilm ganlynol gan yr Eisteddfod Genedlaethol ymddangosodd at Facebook – <https://fb.watch/eFNd8L6gWS/>

Cynhaliwyd dwy sesiwn a Chanolfan Creuddyn sy’n eiddo i gwmni Barcud fu’r lleoliad yn Llanbed. Diolch yn fawr iddynt am ddarparu’r cyfleusterau a hyfryd cael cwmni Steve Jones, Prif Weithredwr Barcud yn y lansiad ar y Maes. Daeth nifer dda o Lanbed i weld eu gwaith yn rhan o’r flanced bicnic.  Dyma ffrwyth y crefftwaith ysbrydolwyd gan y sesiynau garddio gynhelir yn wythnosol yn Llanbed gyda Kim Stoddart o Garden Organics. Buont hefyd yn yr ail sesiwn o ‘Gwledda’ yng Nghanolfan Creuddyn yng nghwmni Hywel Griffiths a Ceri Phillips. Bu Hywel a Ceri yn gwrando ar y storïau am dyfu llysiau a ffrwythau… a delio gyda phroblemau cathod a gwlithod! Diolch iddynt am gofnodi’r sgyrsiau difyr ddaeth yn sail i’w storïau a’r cerddi ar gân gan Lisa Angharad.

Bwriedir datgymalu’r flanced bicnic er mwyn dychwelyd y darnau perthnasol i’r cymunedau wnaeth eu creu. Byddent yn cael eu harddangos yn y cymunedau hynny yn rhan o’r gwaddol bod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion yn 2022. Diolch yn fawr i bawb wnaeth gyfrannu at lwyddiant ‘Gwledda’ ac am gefnogaeth garedig Cered (Menter Iaith Ceredigion dan adain Cyngor Sir Ceredigion), Cynnal y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion gyda chymorth Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru), Cyfoeth Naturiol Cymru a Chelf a Busnes Cymru.