Tymor newydd o bêl-droed i Llanybydder JFC 

Nos Fercher y 7fed o Fedi bydd y clwb yn cwrdd i ail-ddechrau hyfforddi yn barod ar gyfer y tymor newydd.

Cerys Potter-Jones
gan Cerys Potter-Jones

Mae’n bryd i dimoedd pêl-droed iau Llanybydder roi’r bŵts nôl mlaen i ail-ddechrau hyfforddi eto wythnos nesa.

Cafwyd blwyddyn lwyddiannus a gweithgar o bêl-droed llynedd gyda nifer o chwaraewyr newydd yn ymuno â’r clwb a gobeithio y bydd yna wynebau cyfarwydd a rhai newydd eto yn ymuno wythnos nesaf.

Mae’r timoedd yn rhai cymysg gyda nifer o ferched yn chwarae ym mhob grŵp oed.

Mae’r clwb yn ymarfer rhwng 5.30-6.30 bob nos Fercher, yn cychwyn ar y 7fed o Fedi. Y lleoliadau yw Parc Llanybydder i’r rhai dan 6, 8 a 10 ac ar y cae yn Alltyblaca i’r rhai dan 12. Amdani eto eleni Llanybydder!!