#Clonc40 – Uchafbwyntiau Papur Bro Clonc misoedd Chwefror y ganrif ddiwethaf

Ar ben-blwydd Clonc yn 40 oed, edrychwn yn ôl ar brif straeon y papur bro rhwng 1982 a 1999.

gan Yvonne Davies

Clonc Chwefror 1986

Bûm yn pori drwy hen rifynnau Papur Bro Clonc nôl yn 2007 pan oedd Clonc yn 25 oed. Dyma felly gipolwg ar rai o’r storïau a fu yn Clonc ym mis Chwefror dros flynyddoedd y ganrif ddiwethaf.

Bwriadaf gyhoeddi detholiad o storïau’r misoedd eraill yn yr wythnosau nesaf hefyd – cyfnod dathlu Clonc yn ddeugain oed.

Chwefror 1982

Golygyddol:

“Gobeithiwn y bydd y papur yn gyfrwng i gynnal yr ysbryd cymwynasgar clos a gadarnhawyd yn ystod cyfnod yr eira’ Gobeithiwn y bydd yn gyfrwng i’n cael i adnabod ein bro a’n pobol yn well eto. A gobeithiwn hefyd y bydd y papur, wrth iddo dyfu, yn sbardun i hybu gweithgareddau cymdeithasol o bob math – a hynny yn y dyfodol agos. Mae angen rhyw glonc fach ar bawb o dro i dro, a gobeithiwn y bydd y ‘CLONC’ hwn yn diwallu peth o’r angen hwnnw.”

Newyddion Llanwnnen

Diolchwn i Mr a Mrs Evan Jones, Argoed; Mr a Mrs John Williams, Brynamlwg; Mr a Mrs Dilwyn Davies, Brynteg, a Mr a Mrs Roy Roach am gario bwyd i henoed y pentref trwy’r eira mawr. Nid oedd prinder llaeth a bara yn y pentref, gan fod Mr Jones, Penpompren wedi rhoi benthyg ei dractor i Mr Evan Jones a Mr Gwynfor Thomas, Ardwyn i fynd i gasglu bara o Lanbed. Bu Mr a Mrs John Jones, Tynllyn a Mr a Mrs Thomas, Castell Du yn garedig iawn i roi llaeth am ddim i’r pentrefwyr. Diolch yn fawr i bawb.

Chwefror 1983

Llanfair Clydogau

Braf yw croesawu’r Parch a Mrs Morlais Jones yn ôl i Gellan, wedi ymddeol o ofalaeth lewyrchus gyda’r Annibynwyr yn Ffairfach, Llandeilo. Yng Nghapel Mair a Chapel yr Erw y dechreuodd Mr Jones ei yrfa fel gweinidog.

Dewch i ganu

Ydych chi’n gallu_canu? Wel, pam na wnewch chi ymuno â Chôr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984. Bydd y côr yn cyfarfod bob nos Iau o hyn allan. Cysylltwch â Swyddfa’r Eisteddfod am fwy o fanylion.

Genedigaeth

Yng ngofal Sister G. Griffiths, Alltyblaca, ganwyd merch fach i Mrs Alison Logan, Maestir, yn yr Ambiwlans yn Llanwnnen ar Ionawr 22ain.

Capel y Groes

Yn ystod parti Nadolig yr Ysgol Sul, cyflwynwyd Beibl yr un i David a Marian Thomas, Pantffynnon, am gadw’r Ysgol Sul yn ddi-fwlch am saith mlynedd.

Chwefror 1984

Rhan fach o gyfarchiad J. Idris Evans, Trefnydd yr Eisteddfod.

“Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Llambed, ond nid ydyw Eisteddfod yn ddieithr i drigolion y dre. Yn wir, mae yma Eisteddfod flynyddol, – Eisteddfod Rhys Thomas James, Pantyfedwen, ond fe’i rhoddir heibio eleni er mwyn y Genedlaethol….. …. Pan wahoddwyd yr Eisteddfod i Lambed yn y lle cyntaf, fe gredem y dygai elw cymdeithasol a diwylliannol i’r cylch, ac y byddai’r Eisteddfod hithau yn elwa o ymweld â’r ardal. Nid oes gennyf ronyn o amheuaeth na chyflawnir ein gobeithion. Bydd 1984 yn flwyddyn fawr yn ein hanes. Ein braint yw cael bod yn geidwaid ‘y pethe’, a’r deyrnged orau i’r gorffennol yw ein hymgysegriad i’r presennol a’r dyfodol. Dyna fydd fy nhasg i a hynny, rwyf yr un mor siŵr, yw eiddo Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro, a’r eiddo chwithau.”

Chwefror 1985

Cwmsychpant Damwain.

Os fuoch chi yn y pentref ar Ionawr 7fed, fe fyddech wedi gweld tipyn o ryfeddod. Roedd yr eira ar lawr, ac roedd yr heol yn ofnadwy o beryglus gyda’r iâ. Fe ddaeth lori o Dde Cymru, ac fe lithrodd ar yr iâ ar sgwâr y pentref, gan fwrw ‘railings’ y Capel a disgyn ar ben garej Arfryn. Daeth y gyrrwr allan gyda dim ond clwyf bychan i’w law. Mae’r garej yn awr yn deilchion, ac fe ddaeth craen i symud y lori oddi yno.

Chwefror 1986

Heini Jones, Greenfield Tce, a enillodd Gystadleuaeth Bilidowcar yn ddiweddar. Gofynnwyd i blant gynllunio llun a fyddai’n addas i’w roi ar ochr bws Traws Cambria, – llun hir a fyddai’n cyfleu taith y bws drwy Gymru. Roedd llun Heini yn dangos sarff yn ymddolennu, gyda lluniau o fannau diddorol ar bob ochr iddi. Edrychwn ymlaen at weld y bws, gyda’r llun lliwgar ar ei hyd, yn gwibio heibio.

Chwefror 1987

I’r Falklands

Mae Amanda, merch Mair a Terry Page, Barley Mow, yn aelod o’r WRAC ers dwy flynedd a hanner bellach, ac wedi dilyn cwrs hyfforddiant yn Lloegr, bu’n gwasanaethu yn yr Almaen. Treuliodd rhan o’i hyfforddiant yn gwneud ymarfer goroesiad (survival training) a hynny ar dywydd caled. Gorfod iddi fyw allan yn yr awyr agored er mwyn paratoi ar gyfer ei gwasanaeth yn Ynysoedd y Falklands. Hedfanodd allan yno ar Ionawr 23ain, a bydd yno am bedwar mis. Pob lwc i Amanda.

KARL

Llongyfarchiadau i Karl, mab Mr a Mrs Ronald Jones, Clydfan, Cwmann, ar ennill y ‘1986 Monroe Production Saloon Car Championships’ Arwr Karl ers tro oedd gyrrwr ceir, y diweddar Gymro, Tom Pryce. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, daeth Karl yn fwyfwy i’r amlwg fel un o’r gyrwyr mwyaf addawol, ac mae’n awr wedi ennill y wobr a chwenychir yn awchus gan bob gyrrwr o’r fath.

Chwefror 1988

Rhan o adolygiad y gyfres deledu “Dihirod Dyfed” gan Dylan Lewis

Bu disgwyl mawr yn ein tý ni am y gyfres hon, oherwydd cofiaf fy nhad-cu yn canu’r baledi wrthyf pan oeddwn yn iau. Bu’n canu baled hanes llofruddiaeth Hannah Davies yn arbennig, ac roedd y gyfres yn union fel y dychmygais…..

Roeddwn wedi mwynhau y chwe rhaglen yn fawr, ac roeddwn yn falch pan ddaeth Bethan Phillips, yr awdures, i’r ysgol i siarad â ni. Syfrdanais pan glywais fod y criw yn ffilmio am wyth awr y dydd er mwyn cael pedair munud o raglen. Bu Bethan yn gyfrifol am ysgrifennu llyfr ar blas Ffynnonbedr yn 1984, cyn treulio sawl blwyddyn yn ysgrifennu’r gyfres hon.

….. Apeliodd y rhaglenni ataf am fod y llofruddiaethau i gyd wedi digwydd yn yr ardal….ac am fod fy hen dad-cu a fy hen fam-gu yn arfer byw ar fynydd Pencarreg yn y cyfnod hynny……

…Diolch am gyfres o adloniant hanesyddol a diddorol iawn.

Stori fawr arall Chwefror ’88 oedd Cau Ffatri Laeth Dairy Crest yn Felinfach

Chwefror 1989

Yr Hen Fart

Twynog Davies yn codi’r cwestiwn, Beth sydd yn mynd i ddod o safle’r mart, sy’n ddolur llygad ar hyn o bryd? Mae’n debyg ei fod allan o ddwylo Cyngor y dre, gan Mae Cyngor Dosbarth Ceredigion sy’n gwneud y penderfyniadau, a does dim cyllid wedi ei neulltio ar gyfer ’89/90. Faint fwy o amser felly mae’n rhaid aros cyn y ceir unrhyw ymateb?

Chwefror 1990

Mae’r Cyngor Dosbarth wedi paratoi crynodeb ar gyfer datblygu’r hen fart yn Llambed. Dywed y Cyngor eu bod am i’r tir gael ei ail-ddatblygu mewn ffordd a fydd yn adlewyrchu ac yn cyfrannu tuag at dyfiant y dref yn y dyfodol.

Y cynigion mor belled yw siopau, llyfrgell newydd, ac efallai canolfan gymdeithasol neu gymunedol o ryw fath. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys mynediad newydd i Barc y Brenin yn ogystal â symud y llyfrgell ac ail-ddatblygu Neuadd y Dref.

Chwefror 1992

Canfed Rhifyn Clonc

Heddiw, wrth ddathlu’r dyddiad, – gwnawn anfon

y ganfed argraffiad;

Llwyddiant dyddiau hau yr had

Fu rhinwedd pob cyfraniad.

Elwyn Davies

Y papur bro ddaw i roddi hanes

yn gryno, a stori

o ddyddiau ddoe a heddi’

yn y naws sy’n iawn i ni.

Sam Jones

Calennig

Dymuna Nia Wyn a Geinor Medi estyn eu diolch cynhesaf i drigolion Llambed a Chwmann am y croeso a dderbyniasant wrth ganu o ddrws i ddrws ar Ddydd Calan. Casglwyd £110, a bydd yr arian yn mynd i brynu llyfrau Cymraeg i ward y plant yn Ysbyty Glangwili. Gwerthfawrogir haelioni pawb yn fawr.

Chwefror 1993

Un o benillion Eiddwen James i’r Parchedig Glenville Jones, i gofio 50 mlynedd ei ordeinio.

Diolchwn yn ddiffuant

Am gyfle i gydnabod

Eich gwaith yn Aberduar draw,

a Seion a Brynhafod.

Mewn gofal a mewn pregeth

Eich cyfran a fu’n foddion,

Amdanoch chwi a’ch priod hoff

Trysorwn ein hatgofion.

 

Llanybydder

Mae siop yn Llanybydder

Yn ymyl y ‘Llew Du’,

O hyn ymlaen nid bwydydd

A werthir ynddi hi.

Y pentre fydd yn eitha llwm

Heb Rhys a Mair yn siop Dolgwm.

Wel ymddeoliad hapus

Yw ein dymuniad ni,

I Rhys a Mair ‘Gwernyfed’,

Hir oes a fo i chwi.

Pob bendith nawr i chi eich dau,

A phob hapusrwydd yn ddiau.

Chwefror 1995

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yn cyflwyno Bws mini i’r ysgol.

Llyfr ‘Llambed Ddoe’ yn dod o’r wasg.

Chwefror 1996

Daniel Jones – Cap i Gymru

Llanllwni

Enillwyr ‘Menter y Mis’ am eu gofal arbennig dros eu cwsmeriaid yw T.L. Thomas a’i fab, a Teifi Timber. Trefnwyd y gystadleuaeth gan Menter a Busnes, a noddwyd gan Fanc Midland.

Chwefror 1997

Beth hoffech chi?

Fforwm Tref Llambed yn dosbarthu holiadur i’r cyhoedd a disgyblion yr ysgolion. Bwriad y prosiect yw hwyluso datblygiadau lleol o fewn Menter Trefi Masnach.

Anita Williams Llywydd Cenedlaethol Cymdeithas Bowlio Merched Cymru’.

Chwefror 1998

Seion, Cwrtnewydd

Mary Harries, Gelli yn ymddeol o’i swydd fel Trysorydd Capel Seion, wedi cyflawni’r gwaith am 30 mlynedd; a Walter Harries, Clarence, sydd wedi gadael ei swydd y llynedd fel Ysgrifennydd y Capel ers 25 mlynedd.

Chwefror 1999

Andrew Jones a ffon Moses o’i waith sy’n mynd i gwmni Opera’r Metropolitan yn Efrog Newydd.