Can mlynedd nôl i’r flwyddyn, sefydlwyd mudiad Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards i amddiffyn y Gymraeg am fod plant yn ‘anghofio mai Cymry ydynt’ ac erbyn heddiw, mae wedi tyfu i fod yn un o fudiadau pobl ifanc mwyaf Cymru.
Mae dechrau’r dathlu yn cael ei ddynodi gyda parti am 10:30 sy’n cael ei ffrydio’n fyw ar Facebook a YouTube yn ogystal â chael i ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Yn ystod y dydd hefyd, mi fydd yr Urdd yn ymgeisio i dorri ddau record byd;
- Y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i’w huwchlwytho i Facebook o fewn un awr (y record ar hyn o bryd yw 418)
- Y nifer mwyaf o fideos o bobl yn canu’r un gân i’w huwchlwytho i Twitter o fewn un awr (y record ar hyn o bryd yw 250)
I dorri’r recordiau yma, mae 869 o ysgolion a 308 o deuluoedd, unigolion, sefydliadau a busnesau wedi cofrestru i recordio’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ a’i gyhoeddi ar eu gwefannau cymdeithasol rhng 10:45 a 11:45 bore ‘ma.
Mae ysgolion yr ardal gan gynnwys Bro Pedr, Dyffryn Cledlyn a’r Dderi i gyd yn cymryd rhan ac felly bydd gwerth i chi gael cip olwg ar eu gwefannau cymdeithasol yn ystod y dydd neu gweld pob fideo o dan yr hashnod YmgaisRecordBydYrUrdd.
Yna, am 13:30, mi fydd modd i ail-fynychu’r parti i ddarganfod os yw’r Urdd wedi torri’r recordiau byd.
Ar ddechrau blwyddyn yn llawn o ddathlu i’r Urdd, os gennych chi atgof neu brofiad o fod ynghlwm â’r Urdd a hoffech ei rannu? Oes oes yna, gwnewch sylw islaw.